Yr actor Donald Sutherland wedi marw'n 88 oed
Mae'r actor Donald Sutherland wedi marw'n 88 oed yn dilyn cyfnod hir o waeledd.
Yn enedigol o Ganada, fe ddaeth i amlygrwydd wrth actio mewn ffilmiau oedd yn cynnwys The Dirty Dozen (1967), M*A*S*H (1970), a Kelly's Heroes (1970).
Yn ogystal ag actio, roedd hefyd yn heddychwr amlwg.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd ei asiant: “Bu farw’r actor o fri Donald Sutherland heddiw ym Miami, Florida, ar ôl salwch hir. Roedd yn 88 oed.”
Enillodd Sutherland y Golden Globe am y ffilm deledu Path To War ynghyd â Gwobr Emmy am y gyfres Citizen X.
Yn 2017 derbyniodd Wobr er Anrhydedd yr Academi am ei actio.
Roedd perfformiadau diweddaraf Sutherland yn cynnwys ffilm The Hunger Games fel y cymeriad Coriolanus Snow, ac fel barnwr yn sioe deledu 2023 Lawmen: Bass Reeves.
Roedd yn dad i'r actor Kiefer Sutherland.
Mae'n gadael ei wraig Francine Racette, ei feibion Roeg, Rossif, Angus, a Kiefer, a'i ferch Rachel. Roedd ganddo bedwar o wyrion.
Inline Tweet: https://twitter.com/RealKiefer/status/1803837822677225581
Llun: WIkipedia