Llafur yn cadw sedd mewn is-etholiad o drwch blewyn
02/07/2021
Mae Llafur wedi ennill is-etholiad Batley a Spen yn Sir Gorllewin Efrog.
Yn ôl y canlyniadau swyddogol, fe enillodd y blaid 13,296 o bleidleisiau tra bod y Ceidwadwyr wedi dod yn ail agos gyda 12,973 o bleidleisiau.
Daw'r canlyniad fel llygedyn o obaith i Lafur, gyda llawer yn darogan ansicrwydd am ddyfodol arweinyddiaeth Keir Starmer petai'r blaid wedi colli gafael ar y sedd.
Dywedodd yr ymgeisydd buddugol Kim Leadbeater, sef chwaer i'r A.S. Llafur Jo Cox gafodd ei llofruddio gan eithafwr asgell dde, fod pobl Batley a Spen wedi "pleidleisio am obaith".
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Senedd y DU