Banc Lloegr yn cadw cyfraddau llog ar 5.25%
Mae Banc Lloegr wedi cadw cyfraddau llog heb eu newid bythefnos cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Pleidleisiodd aelodau Pwyllgor Polisi Ariannol y Banc i gynnal cyfraddau ar 5.25% am y seithfed cyfarfod yn olynol ddydd Iau.
Daw’r penderfyniad ddiwrnod ar ôl i ffigyrau swyddogol ddangos bod cyfradd chwyddiant wedi cyrraedd targed y Banc o 2% ym mis Mai am y tro cyntaf ers bron i dair blynedd.
“Mae’n newyddion da bod chwyddiant wedi dychwelyd i’n targed o 2%,” meddai Andrew Bailey, llywodraethwr y Banc.
“Mae angen i ni fod yn sicr y bydd chwyddiant yn aros yn isel a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu cadw cyfraddau ar 5.25% am y tro.”
Ond roedd anghytuno ymysg aelodau’r pwyllgor naw person dros y penderfyniad gyda dau aelod, Swati Dhingra a Dave Ramsden, yn pleidleisio o blaid gostwng cyfraddau y mis hwn.
Roedd yn ymddangos bod tri aelod arall o'r pwyllgor rhwng dau feddwl a ddylid cadw cyfraddau heb eu newid ai peidio.
Daw'r penderfyniad dydd Iau bythefnos cyn i’r DU gynnal Etholiad Cyffredinol, ond pwysleisiodd swyddognion y Banc nad oedd amseru yr etholiad “yn berthnasol i’w penderfyniad” ar gyfraddau.
Ond, gydag arolygon barn yn awgrymu bod Syr Keir Starmer ar y ffordd i arwain Llafur i fuddugoliaeth ar 4 Gorffennaf, gallai cwtogi cyfraddau ym mis Awst roi hwb economaidd iddo yn gynnar yn ei arweinyddiaeth.
Fe fydd llawer o Geidwadwyr yn cwestiynu pam y galwodd Rishi Sunak etholiad yn ystod yr haf, pan allai fod wedi elwa o gyfraddau is yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Roedd y rhan fwyaf o sylwebwyr gwleidyddol yn disgwyl i Mr Sunak aros tan yr hydref i alw'r etholiad.