Newyddion S4C

Magu hyder menywod a merched yn y byd amaeth

20/06/2024

Magu hyder menywod a merched yn y byd amaeth

Mewn maes sy'n mynnu'r mwyaf gan bawb mae'r cyfle i drafod yn brin, yn enwedig i ferched.

Yma ar fferm Llanbenwch yn Llanfair Dyffryn Clwyd y bwriad ydy ysbrydoli, magu hyder a rhannu syniadau.

"'Dan ni'n edrych am symud be 'sgynnon ni mewn i fan hyn.

"Cynnyrch lleol, cwmniau lleol yn gwerthu hufen ia, jams, chutneys."

Mewn hinsawdd sy'n heriol, mae rôl y fferm draddodiadol yn newid.

"'Dan ni'n dal i ffermio 'chydig o'r tir o fewn y teulu ond 'dan ni wedi mynd fatha teulu i'r ochr carafanio a thwristiaeth."

Mae newid ar y gweill gan Sara Evans a'r teulu sydd unwaith eto'n mentro.

'Dan ni yma heddiw'n trafod merched mewn amaeth.

Sut dach chi'n gweld pethau ar hyn o bryd o fewn y sector?

"Mae merched efo lot mwy o allu i ddeud rwan yn enwedig efo Cyswllt Ffermio.

"Mae gynnon ni grŵp busnesau lleol.

"Dod at ein gilydd unwaith y mis, 'dan ni'n rhannu syniadau.

"Mae'r cyfleoedd yna gan Gyswllt Ffermio a ballu yn helpu ni symud ymlaen a definite 'di neud fi'n gryfach a 'di meddwl, "Gawn ni drio fo."

"Mae'n rhoi'r her a'r hwb."

Dros baned, does yna'm modd peidio sylwi ar yr heriau sy'n wynebu'r sector.

Dyma i chi fyddin o ferched sydd yn chwilio am ffyrdd i wella datblygu, goroesi, a diwrnod fel heddiw'n gyfle i ddysgu.

"'Dan ni'n jyglo gymaint o blatiau o ddydd i ddydd rhwng gofal plant i lot ohonom ni a gweithio a rhedeg busnesau ein hunain.

"Felly mae'r cyfleoedd yn brin i ni gael yr amser yna i fod allan o'r busnes, a cael cyfle i edrych yn wrthrychol."

"'Di cael diwrnod i'r brenin - cael mynd allan, cael bwyd lyfli a cwrdd a merched 'run peth a ni.

"Mae'n neis rhoi mewn persbectif pwy mor bwysig ydy gwraig y ffarm."

Be mae'r digwyddiad yma'n rhoi i chi fel merched o fewn y sector?

"Lot o hyder.

"Mae'n neud chi deimlo fatha, "Dw i eisiau neud hwnna."

"Mae'n rhoi hyder i ni a syniadau hefyd bod 'na rai wedi llwyddiannu mewn gwahanol feysydd a wedi arallgyfeirio, a bod 'na opsiwn i ninnau fedru gwneud yn ein busnesau bach ein hunain adre."

A'r un neges oedd gan bawb yma - dysgu o'i gilydd a gwneud y mwyaf o'r cyfnod a'r gwerth degawdau o brofiadau.

"Mae hi'n sector reit wrywaidd er mae 'na mwy a mwy o ferched o fewn y diwydiant ac yn ddylanwadol iawn o fewn y diwydiant.

"Yma yng Nghymru, 'dan ni mor lwcus o'r tirwedd, ein diwylliant ni y Gymraeg, a mae o'n rôl mawr i ni o fewn amaeth i allu hybu a bod gynnon ni'r modd i wneud."

Mae cyfleoedd fel hyn yn brin ond y rheiny oedd yma heddiw yn gwneud yn fawr i roi o'u hamser er mwyn torri tir newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.