Newyddion S4C

Mam i ddyn ifanc sydd ar goll yn Tenerife yn 'byw trwy hunllef'

20/06/2024
Jay Slater

Mae mam i ddyn ifanc aeth ar goll tra ar ei wyliau ar ynys Tenerife wedi dweud bod chwilio amdano fel "byw trwy hunllef".

Nid oes unrhyw un wedi clywed gan Jay Slater, 19 oed o Oswaldtwistle yn Sir Gaerhirfryn ers bore dydd Llun pan ddywedodd wrth ffrind ei fod yn cerdded y daith o 11 awr yn ôl i'w westy ar yr ynys wedi iddo golli'r bws olaf.

Dywedodd ffrind i Mr Slater, Lucy, oedd wedi teithio i Tenerife gydag ef, ei fod wedi mynd i aros gyda phobl yr oedd wedi eu cwrdd ar ôl noson allan.

Roedd hi wedi derbyn galwad gan Mr Slater tua 08.15 ddydd Llun ar ôl iddo fethu'r bws, ac roedd wedi dweud wrthi bod angen dŵr arno a dim ond 1% o fatri oedd ganddo ar ei ffôn.

Yna fe ddiffoddodd ffôn Mr Slater yn sydyn, gyda'i leoliad olaf yn ei leoli ger parc Rural de Teno - ardal fynyddig sy'n boblogaidd gyda cherddwyr.

Dywedodd Lucy wrth bapur y Manchester Evening News bod un o'r bobl yr oedd Mr Slater wedi cwrdd â nhw wedi eu gyrru yn ôl i'w fflat mewn car llog ac nad oedd Mr Slater wedi sylweddoli pa mor bell i ffwrdd oedd ei westy.

“Mae e wedi cyrraedd canol unman yn y diwedd. Roedd Jay yn amlwg yn meddwl y byddai’n gallu cyrraedd adref o’r ardal hwnnw,” meddai.

“Ond yna yn y bore mae wedi cychwyn cerdded, gan ddefnyddio ei fapiau ar ei ffôn a gorffen yng nghanol mynyddoedd heb ddim byd o gwmpas.”

Cafodd Mr Slater ei weld ddiwethaf yn gwisgo crys-T gwyn gyda throwsus byr ag esgidiau rhedeg.

Image
Tenerife
Llun: Bomberos Voluntarios de Santiago del Teide

'Eisiau fy mhlentyn yn ôl'

Fe wnaeth mam Mr Slater, Debbie Duncan, hedfan i'r ynys ddydd Mawrth i chwilio am ei mab.

Mae hi'n apelio am unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda'r teulu.

"Mae'n hunllef, dwi'n byw trwy hunllef," meddai wrth ITV News.

"Fyddwn i ddim yn dymuno hyn ar unrhyw un. Dwi eisiau fy mhlentyn yn ôl.

"Plis, unrhyw un sydd yn gallu helpu - edrychwch amdano, mae'n ardal enfawr.

"Mae ef allan yno yn rhywle neu mae rhywun yn gwybod lle mae o."

Roedd Mr Slater wedi mynd i'r ynys ar gyfer gŵyl gerddoriaeth NRG.

Mae ei fam yn dweud ei bod hi'n difaru ei annog i fynd yno.

“Dwi'n difaru ei annog i fynd i'r digwyddiad. Ddylwn i fod wedi dweud: ‘Paid a mynd i Tenerife.’

“Rwy’n meddwl ei fod yn dal i fod mewn hwyliau da, yn llawn bwrlwm – nid ydym yn gwybod lle mae o.

“Ac mae wedi meddwl: ‘Rydw i’n mynd i gerdded.’ A dyna mae’n debyg a ddywedodd wrth y person olaf y cysylltodd a nhw”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teulu dyn o Brydain sydd ar goll yn Sbaen rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.