Newyddion S4C

Murlun yn codi ymwybyddiaeth o farwolaethau nam ar y galon ymysg yr ifanc

ITV Cymru 20/06/2024
Murlun Jake Pickford

Mae murlun newydd wedi ymddangos yng Nghaerdydd er cof am fachgen yn ei arddegau a fu farw yn sydyn o ganlyniad i nam ar ei galon.

Bu farw Jake Pickford yn 16 oed ar ôl i'w galon stopio tra'r oedd yn cysgu ar 15 Awst, 2018.

Cafodd y bachgen o bentref Abertyswg yng Nghaerffili ei ddarganfod yn ei wely gan ei chwaer Chloe, a oedd yn 19 oed ar y pryd.

Roedd Jake wythnos yn unig i ffwrdd o dderbyn ei ganlyniadau TGAU ac roedd wedi sicrhau lle yn ei goleg lleol i astudio chwaraeon – roedd wedi rhoi ei fryd ar ddod yn chwaraewr pêl-droed.

Daeth crwner i'r casgliad bod Jake wedi marw o achosion naturiol, o ganlyniad i syndrom marwolaeth arhythmig sydyn (SADS).

Mae’r pêl-droediwr dawnus bellach wedi’i goffau mewn murlun ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd.

Mae'r murlun yn un o 12 ar draws y DU ac yn rhan o ymgyrch gan Sefydliad Prydeinig y Galon i dynnu sylw at y bobl ifanc o dan 35 oed sydd marw o ganlyniad i nam ar y galon.

Image
Jake Pickford

“Roedd mam wedi mynd yn ôl i weithio fel nyrs ym Merthyr Tudful yn ddiweddar. Roedd hi'n gweithio hanner diwrnod y diwrnod hwnnw, felly dim ond fi oedd yn y tŷ gyda fy nau frawd y bore hwnnw," meddai Chloe.

“Gan ei bod hi’n wyliau’r haf, roedd Jake wedi aros i fyny yn hwyr yn chwarae ar ei Xbox, felly'r bore wedyn pan nad oedd wedi deffro neu ddod i lawr y grisiau wnes i ddim meddwl llawer am y peth. Nid oedd yn anarferol.”

“Daeth Mam adref o gwmpas amser cinio ac fe wnes i frechdan i Jake, ond wrth i mi fynd i mewn i'w ystafell wely, mi nes i sylwi fod ei fraich yn hongian dros ochr y gwely ac roedd yn lliw rhyfedd. Ro'n i'n gwybod yn syth bod rhywbeth o'i le, felly nes i weiddi ar mam ddod i mewn."

Ychwanegodd: “Cyn gynted ag y gwelodd Mam ef, rwy'n meddwl ei bod yn gwybod ei fod wedi mynd. Ffoniais 999."

Dywedodd y gwasanaethau brys wrth Chloe a'i mam i ddod o hyd i'r diffibriliwr agosaf. 

Roeddent yn gwybod bod un yng nghlwb gweithwyr y pentref, ond pan gyrhaeddodd Chloe nid oedd neb yno i'w gadael i mewn.

Pan ddychwelodd i'r tŷ, fe wnaeth Chloe a'i mam ddechrau perfformio CPR ar Jake. 

"Roedd yn teimlo fel oes cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, ond mae'n debyg mai dim ond munudau oedd hi," meddai.

Image
Teulu Jake Pickford
Mae'r murlun ar Stryd Womanby yn un o nifer ar draws y DU i godi ymwybyddiaeth o farwolaeth sydyn y galon

Fe wnaeth archwiliad post mortem ganfod nad oedd tystiolaeth bod gan Jake unrhyw gyflwr a allai fod wedi arwain at ei farwolaeth. 

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, mae mwy na 500 o bobl yn y DU yn marw o SADS bob blwyddyn.

Mae'r syndrom yn disgrifio achosion pan pan fydd rhywun yn marw'n sydyn ac yn annisgwyl o ataliad ar y galon. Gall yr ysgogiadau trydanol yn y galon fynd o chwith ac achosi i'r galon i guro mewn ffordd anarferol, sy'n gallu achosi ataliad y galon.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn gobeithio, trwy goffau pobl ifanc mewn murluniau ar draws y wlad, y bydd mwy o bobl yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y gall y cyflyrau hyn eu cael ar deuluoedd.

Dywedodd yr elusen nad yw un o bob pump o bobl yng Nghymru yn credu y gall cyflwr y galon effeithio ar unigolion os ydynt yn iach ac o dan 35 oed.

'Un dydd ar y tro'

Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae'r teulu Pickford yn "dal i gael trafferthion mawr".

Mae wedi bod yn arbennig o anodd i Mam a Dad achos maen nhw jest yn poeni bod yr un peth yn gallu digwydd i fi ac Alfie," meddai Chloe.

“Roedd Jake a minnau yn agos iawn, er gwaethaf ymladd fel ci a chath, fel brodyr a chwiorydd! Allwn i ddim aros iddo fynd yn hŷn, fel y gallai basio ei brawf gyrru a gallem fynd allan yn y car gyda'n gilydd. Ro'n i'n edrych ymlaen at fynd allan i yfed a chymdeithasu ag ef pan oeddem yn hŷn.

"Ond fyddwn ni byth yn gallu gwneud hynny nawr. Byddai Jake yn 22 y mis Tachwedd, ac ni allaf feddwl tybed pa fath o ddyn ifanc y byddai wedi dod a beth fyddai wedi'i wneud â'i fywyd."

Ychwanegodd: “Rydyn ni i gyd wedi cael trafferth gyda'n hiechyd meddwl ac rydyn ni'n cymryd pob dydd un ar y tro ac yn dal i fynd. 

“Dyna'r cyfan y gallwn ei wneud. Rydyn ni'n ei chael hi'n anodd iawn cynllunio ar gyfer yfory, oherwydd i Jake, ni ddaeth yfory fyth."

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.