Newyddion S4C

Taliadau cerdyn yn unig yn 'eithrio pobl ag anableddau dysgu o weithgareddau'

21/06/2024
cerdyn credit (pixabay)

Mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu heithrio o weithgareddau dyddiol fel siopa gan fusnesau sydd ond yn derbyn taliadau â cherdyn, yn un ôl un o bwyllgorau’r Senedd. 

A hithau'n Wythnos Anabledd Dysgu, mae’r Pwyllgor Deisebau yn lansio adroddiad newydd sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau bod pobl sydd eisiau defnyddio arian parod yn gallu gwneud hynny. 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu bod yn rhaid i bob sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus dderbyn taliadau ar ffurf arian parod. 

Gyda mwy a mwy o fusnesau bellach yn gwrthod derbyn arian parod, mae hyn yn cael sgil-effaith lle mae pobl ag anableddau dysgu nad oes ganddynt gardiau credyd neu ddebyd wedi methu prynu eitemau medd y pwyllgor. 

Un a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor oedd Janet Jones, a hithau'n cefnogi Steven McGee, sydd ag anabledd dysgu. 

Dywedodd Ms Jones: “Mae Steven yn berson cymdeithasol iawn, ac yn hoffi mynd i siopau coffi a thalu gyda’i arian ei hun. Ond rydyn ni wedi mynd i lefydd yn y gorffennol lle mae wedi archebu coffi ac wedyn wedi clywed mai taliad ‘cerdyn yn unig’ yw hi. 

"Mae hyn yn cymryd yr agwedd gymdeithasol oddi wrth rywun fel Steven ac yn ei ypsetio’n fawr.” 

Llai o fanciau ar y stryd fawr 

Fe wnaeth adroddiad y Pwyllgor ddarganfod mai un o brif resymau busnesau dros symud i daliadau heb arian parod yw bod dim banciau ar y stryd fawr i dalu arian i mewn iddynt mewn llawer o ardaloedd.  

Darganfyddodd ymchwiliad gan Senedd y DU fod 40% yn llai o fanciau ar y stryd fawr yng Nghymru o’i gymharu â 2012. 

Casglodd deiseb elusen Mencap Cymru ar wefan y Senedd dros 2,500 o lofnodion, a ysgogodd y Pwyllgor i lansio ymchwiliad i edrych ar y mater yn fanylach. 

'Allgáu'

Dywedodd Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru: “Fe wnaeth Mencap Cymru greu’r ddeiseb hon ar gyfer Pwyllgor Deisebau y Senedd gan ein bod ni’n pryderu bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu hallgáu fwyfwy oherwydd diffyg mynediad at ffyrdd digidol o dalu. 

“Roeddem yn arbennig o bryderus bod cyrff cyhoeddus, sydd â dyletswydd i beidio â gweithredu mewn ffordd wahaniaethol, fel Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, efallai’n gwahaniaethu ar ddamwain drwy ariannu sefydliadau i wahaniaethu yn erbyn pobl ag anabledd dysgu drwy wrthod derbyn arian parod.” 

“Mae aelodau Mencap Cymru a’r bobl rydym yn eu cefnogi yn dweud wrthym ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd i ddefnyddio lleoliadau yn eu cymunedau lleol fel siopau, caffis a lleoliadau celfyddydau a hamdden gan eu bod nhw'n methu talu â cherdyn.   

“Er ein bod yn cydnabod bod llawer o’r problemau gydag arian parod yn faterion nad ydynt wedi’u datganoli, rydym yn croesawu argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor Deisebau ac yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda phobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad. 

"Mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod yr allgáu hwn yn cael ei wrthdroi ac nad yw pobl sy’n methu gwneud taliadau digidol yn cael eu hallgáu ymhellach o gymdeithas yng Nghymru.” 

Canlyniadau 'anfwriadol' 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod busnesau sy’n gwrthod cymryd taliadau arian parod yn gosod arwyddion mwy eglur i osgoi peri embaras ac ypsetio pobl ag anableddau dysgu pan fyddant yn clywed eu bod nhw’n methu talu ag arian parod ac yn gorfod gadael y safle.  

Ar un achlysur, clywodd y Pwyllgor fod yr heddlu wedieu galw oherwydd bod unigolyn wedi ypsetio’n ddifrifol ar ôl cael ei atal rhag prynu cylchgrawn gan ddefnyddio arian parod.    

Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Rydym ni i gyd wedi sylwi ar y symudiad at daliadau heb arian parod dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r canlyniadau anfwriadol yn rhywbeth llai amlwg. Mae’n amlwg bod gwrthod derbyn taliadau ag arian parod yn eithrio pobl ag anableddau dysgu rhag defnyddio gwasanaethau a phrynu nwyddau.  

“Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, os yw sefydliad yn cael arian cyhoeddus, y dylai allu prosesu taliadau arian parod gan y cyhoedd. 

“O siarad â busnesau, y rheswm dros symud tuag at daliadau heb arian parod yw’r ffaith bod banciau mawr yn cau canghennau, sy’n golygu bod masnachwyr yn ei chael yn haws peidio â derbyn arian parod o gwbl."

Dywed y Pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil i weld pa heriau y mae pobl nad ydynt yn defnyddio taliadau digidol yn eu hwynebu. 

Yn ogystal â phobl ag anableddau dysgu, dylai hyn hefyd gynnwys pobl nad oes ganddynt gyfrif banc neu bobl sy’n dewis defnyddio arian parod yn unig i osgoi mynd i ddyled.  

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Pwyllgor Deisebau ddechrau mis Awst. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.