Just Stop Oil yn targedu maes awyr 'lle mae awyren Taylor Swift'
Mae ymgyrchwyr o fudiad Just Stop Oil wedi eu harestio ar amheuaeth o daenu paent dros awyrennau preifat mewn maes awyr yn Llundain ble y maen nhw'n honni mae awyren y gantores Taylor Swift.
Dywedodd Heddlu Essex eu bod nhw wedi’u harestio ar amheuaeth o ddifrod troseddol ac ymyrraeth â’r defnydd o seilwaith cenedlaethol.
Dywedodd Just Stop Oil bod dau ymgyrchydd wedi mynd i mewn i Faes Awyr Stansted tua 5:00 ddydd Iau gan ddefnyddio diffoddwyr tân i daenu paent oren ar ddwy awyren breifat.
Yn ôl Just Stop Oil, roedd awyren y gantores Taylor Swift wedi glanio yn y maes awyr oriau ynghynt ond does dim cadarnhad a oedd unrhyw ddifrod i'w hawyren.
Mae'r mudiad wedi dweud mai Jennifer Kowalski, 28, o Dumbarton, a Cole Macdonald, 22, o Brighton yw'r ymgyrchwyr oedd yn gyfrifol ond nid yw'r heddlu wedi cadarnhau eu henwau.
Mewn datganiad dywedodd Just Stop Oil: “Rydyn ni'n byw mewn dau fyd: un lle mae biliwnyddion yn byw mewn moethusrwydd, yn gallu hedfan mewn jetiau preifat i ffwrdd o'r llall, lle mae miliynau yn byw dan amodau sy'n gwneud eu bywydau ddim gwerth eu byw.
“Yn y cyfamser, mae’r system hon sy’n caniatáu i gyfoeth eithafol gael ei gronni gan ychydig, ar draul pawb arall, yn dinistrio’r amodau angenrheidiol i gynnal bywyd dynol mewn ‘haf creulon’ di-ddiwedd sy’n prysur gyflymu.
“Nid yw biliwnyddion yn anghyffyrddadwy, bydd chwalfa hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom.”