Newyddion S4C

Eisteddfod Llangollen: 'Rhaid edrych ar bosibiliadau i'r dyfodol'

Newyddion S4C 01/07/2021

Eisteddfod Llangollen: 'Rhaid edrych ar bosibiliadau i'r dyfodol'

Mae hi'n bosib y bydd elfen ddigidol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn parhau wedi'r pandemig, yn ôl Prif Weithredwr dros dro'r ŵyl.

Roedd Betsan Moses yn siarad ar drothwy'r eisteddfod, fydd yn cael ei chynnal ar ffurf ddigidol wythnos nesaf.

Yn ôl Ms Moses, mae rhaid i'r ŵyl edrych tua'r dyfodol.

Yn sgwrsio ar rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Ms Moses: "Dwi'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar beth yw'r posibiliadau ar gyfer y dyfodol. Fel gallwn ni ddenu mwy i Langollen, fel gallwn ni ddatblygu'n cynulleidfaoedd ni, fel gallwn ni yn ogystal sicrhau bod pawb sy'n dymuno cymryd rhan yn gallu cymryd rhan.

"Felly boed hynny yn dod i Langollen neu boed hynny yn ddigidol. Felly mae rhaid edrych ar hynny i gyd. Wrth gwrs dyna beth fydd y gwaith mawr dros yr Hydref, o ran edrych ar be' sy'n bosib gwireddu flwyddyn nesa'."

Teimlo'n 'siomedig'

Mae'r eisteddfod yn enwog am groesawu'r byd i'r gornel hon o Gymru, gyda nifer o bobl leol yn dyheu am groesawu'r ŵyl unwaith eto.

Dywedodd Leri, sy'n ddisgybl yn Ysgol y Gwernant, Llangollen: "Dwi'n teimlo'n eithaf siomedig oherwydd nes i weld ar y newyddion fod festivals wedi dechrau eto ond mae'r Eisteddfod ddim yn digwydd blwyddyn yma."

Ychwanegodd Huw, sydd hefyd yn ddisgybl yn yr ysgol gynradd: "Dwi'n hoffi gwrando ar y gerddoriaeth a ges i ddim neud hynna llynedd, na eleni."

Llun: Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.