Saladau criciedyn i fod yn 'bryd o fwyd arferol' erbyn 2054
Fe allai byrgyrs sydd wedi eu cynhyrchu gan labordai a saladau criciedyn fod yn bryd o fwyd arferol erbyn 2054, yn ôl astudiaeth.
Mae disgwyl i bobl droi at brynu cig sydd wedi’i feithrin o feinweoedd anifeiliaid mewn labordai yn ystod y 30 blynedd nesaf yn y gobaith o leihau’r niwed sy’n cael ei wneud i’r amgylchedd.
Yn ôl yr adroddiad a gafodd ei gynnal ar ran siop y Co-op fe allai pobl ddechrau bwyta pryfed fel termitiaid, criciaid, locustiaid a sioncod y gwair fel ffynhonnell protein.
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y gallai mwy o bobl fwyta llysiau sydd wedi’u tyfu yn lleol, gan wneud mwy o ddefnydd o ddulliau traddodiadol o gadw bwydydd yn ffres, fel piclo ac eplesu (‘fermenting’).
Daw’r gwaith ymchwil gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Efrog, fel rhan o raglen o’r enw ‘FixOurFood’.
Dywedodd cyfarwyddwr y rhaglen, Bob Doherty o Brifysgol Efrog, y bydd arferion bwyta yn ystod y degawdau i ddod yn newid yn llwyr o’r hyn y mae pobl yn gyfarwydd efo’r dyddiau yma.
“Erbyn 2054, bydd gan ddinasyddion y DU bryfed ar eu platiau bwyd, ac mae yna bosibilrwydd y gallai cricedau cael eu malu’n gynt o gymharu â grawnfwydydd.”
Ers dechrau cynnal yr arolwg yn 1994 mae'r ymchwilwyr wedi holi bron 70,000 o bobl. Mae'r canfyddiadau yn dangos bod 72% o bobl bellach yn pryderu am yr effaith mae eu bwydydd yn cael ar yr amgylchedd – gyda nifer yn pryderu am effaith cynhesu byd eang, lles anifeiliaid, a’r gor-ddefnydd o blastig.
Dywedodd 54% o bobl y bydden nhw’n fodlon talu mwy am nwyddau cynaliadwy – gostyngiad o’r 62% oedd yn fodlon gwneud yn 1994.
Mae 88% o bobl bellach yn bwyta mwy o lysiau a ffrwythau, ac mae 87% yn ymdrechu i brynu bwydydd iachach.
Llun o salad criced sydd wedi'i gynhyrchu drwy dechnoleg AI (Co-op/PA Wire)