Newyddion S4C

Timau Cymru'n darganfod pwy yw eu gwrthwynebwyr yng nghystadlaethau Ewrop

18/06/2024
Caernarfon Town / FAW Photography

Bydd Y Seintiau Newydd yn teithio i Montenegro gyda Chaernarfon yn ymweld â Belfast wedi i dimau'r Cymru Premier JD ddarganfod pwy yw eu gwrthwynebwyr yng nghystadlaethau pêl-droed Ewrop.

Cafodd yr enwau eu tynnu allan o’r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr UEFA a Chyngres Europa ddydd Mawrth.

Yng Nghynghrair y Pencampwyr, bydd pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd, yn wynebu FK Decic, y tîm enillodd y bencampwriaeth yn Montenegro y tymor diwethaf.

Cei Connah, Y Bala a Chaernarfon oedd y tri thîm o Gymru i ddod allan o’r het ar gyfer rownd rhagbrofol cyntaf Cyngres Europa UEFA.

Cafodd y tîm orffennodd yn ail yn y gynghrair, Cei Connah, eu paru gyda NK Bravo, sydd yn Ljubljana, prif ddinas Slofenia.

Bydd y Bala yn ymweld ag Estonia ar ôl iddyn nhw gael eu tynnu allan o’r het gyda thîm Paide Linnameeskond.

Bydd Caernarfon, ar eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop, yn gwneud y daith fer ar draws Môr Iwerddon i wynebu Crusaders o Ogledd Iwerddon.

Bydd gemau'r Seintiau Newydd yn cael eu chwarae ar Gorffennaf 9/10 a 16/17, tra y bydd y gemau Cyngres Europa yn cael eu chwarae ar Gorffennaf 11 a 18.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.