Gwylwyr y Glannau ym Môn yn achub merch ifanc ar ôl iddi ffonio 999
Mae merch wedi ei hachub gan Wylwyr y Glannau ar ôl iddi gysylltu gyda'r gwasanaethau brys yn dweud ei bod yn pryderu am lanw'r môr yng Nghaergybi.
Roedd y ferch ifanc wedi ffonio 999 ac fe aeth bad achub Caergybi i chwilio amdani toc wedi 16:30 ddydd Sul.
Y gred i ddechrau oedd bod y ferch yn y dŵr, ac fe aeth tri aelod o griw’r orsaf bad achub i harbwr Caergybi.
Wrth iddynt ddechrau chwilio, fe gawson nhw wybod am grŵp bach o bobl ger marina Caergybi.
Fe ddaethon nhw o hyd i bedwar o bobl ifanc - gan gynnwys y ferch ifanc.
Roedd un o’r pedwar – perthynas oedd yn oedolyn ifanc – wedi rasio i helpu ac yn ei chynorthwyo hi a’i ffrindiau pan gyrhaeddodd y bad achub.
Cafodd y pedwar eu trosglwyddo i'r cwch a'u cludo yn ôl i’r tir lle’r oedd aelodau o'u teuluoedd yn aros amdanynt.
Doedd y ferch ifanc ddim wedi bod yn y dŵr ond roedd hi wedi pryderu ynglŷn â'i lleoliad hi a'i ffrindiau ac wedi ffonio'r gwasanaethau brys.
Ar ôl cael ei hasesu fe gafodd fynd adref gyda'i theulu.
Yn ôl Rheolwr Gweithrediadau'r bad achub yng Nghaergybi, David Owens roedd hi wedi ymateb yn y ffordd gywir.
"Gwnaeth y ddynes ifanc hon yr union beth iawn pan ddechreuodd deimlo’n bryderus ynghylch lle’r oedd hi a chyflwr y môr," meddai.
"Fe ffoniodd 999 a gofyn am help, a bu modd i ni ei chyrraedd yn gyflym iawn. Yr un mor bwysig, ni aeth i mewn i'r dŵr, a fyddai wedi gwneud pethau'n llawer gwaeth. Arhosodd lle’r oedd hi ac aros am help i gyrraedd.
"Mae dyfroedd ein harfordir yn beryglus, ac rydym ni yn gobeithio y byddai unrhyw berson ifanc yn dilyn esiampl y ferch hon - cofiwch y gallwch chi alw am gymorth bob amser, a ffoniwch 999 ar unwaith os byddwch chi neu rywun arall yn mynd i drafferthion yn y môr."
Llun: Bad achub Caergybi / Vicki Owens