Arestio dau yn dilyn ymchwiliad i 'dwyll tocynnau sylweddol' ar WhatsApp
16/06/2024
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau berson yn dilyn ymchwiliad i achos o "dwyll tocynnau sylweddol" ar WhatsApp.
Cafodd dynes 32 oed o Gastell-nedd a dyn 27 oed o Gaerdydd eu harestio ar amheuaeth o dwyll ac mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i "dwyll tocynnau ar raddfa fawr trwy grŵp WhatsApp yn ymwneud â chyngherddau yng Nghaerdydd".
Mae'r llu yn annog unrhyw un sy’n credu eu bod wedi dioddef y twyll hwn i gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400197204.