Tywysoges Cymru yn ymddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers cyhoeddi fod ganddi ganser
Mae Tywysoges Cymru wedi ymddangos mewn digwyddiad cyhoeddus am y tro cyntaf ers iddi gyhoeddi ei bod yn derbyn triniaeth am ganser.
Fe gafodd Catherine ei gweld yn gadael Palas Buckingham mewn cerbyd fore Sadwrn gyda'i thri o blant, y Tywysog George, y Dywysoges Charlotte a'r Tywysog Louis. Roedd ei gŵr, Tywysog Cymru, ar gefn ceffyl.
Roedd hi'n cymryd rhan yn yr orymdaith flynyddol Trooping the Colour, sy'n gyfle i'r lluoedd arfog ddathlu eu cysylltiad â'r Teulu Brenhinol.
Yn dilyn yr orymdaith, fe wnaeth y Teulu Brenhinol ymgynnull ar falconi enwog Palas Buckingham i wylio'r RAF yn hedfan heibio.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y Dywysoges Catherine bod ei thriniaeth yn mynd rhagddo a’i bod yn gwneud “cynnydd da” ond yn cael “dyddiau da a dyddiau gwael”.
Dywedodd ei bod yn bwriadu “ymgymryd ag ambell i ddigwyddiad cyhoeddus dros yr haf” ond nad oedd hi “allan o berygl eto”.
“'Fel y bydd unrhyw un sy'n mynd trwy gemotherapi yn gwybod, mae yna ddyddiau da a dyddiau gwael,” meddai.
“Ar y dyddiau gwael rydych chi'n teimlo'n wan, yn flinedig ac mae'n rhaid i chi ildio i orffwys eich corff.
“Ond ar y dyddiau da, pan fyddwch chi'n teimlo'n gryfach, rydych chi am wneud y gorau ohoni.”
Ychwanegodd y Dywysoges: “Mae fy nhriniaeth yn parhau ac fe fydd yn parhau am ychydig fisoedd eto. Ar y dyddiau rwy’n teimlo’n ddigon da, mae’n bleser ymgysylltu â bywyd ysgol, treulio amser personol ar y pethau sy’n rhoi egni a phositifrwydd i mi, yn ogystal â dechrau gwneud ychydig o waith gartref.
“Rwy'n edrych ymlaen at fynychu Gorymdaith Pen-blwydd Y Brenin dros y penwythnos gyda fy nheulu ac yn gobeithio ymuno ag ymgymryd ag ambell i ddigwyddiad cyhoeddus dros yr haf.
“Ond hefyd rydw i’n gwybod nad ydw i allan o berygl eto.
“Rwy'n dysgu sut i fod yn amyneddgar, yn enwedig gyda’r holl ansicrwydd.
“Gan gymryd bob dydd fel y daw, gwrando ar fy nghorff, a chaniatáu i mi fy hun gymryd yr amser sydd ei angen i wella.”
Llun: PA