Newyddion S4C

Uwchgynhadledd heddwch y byd yn datgan cefnogaeth i Wcráin

16/06/2024
Arlywydd Wcrain yn y Swistir

Mae dwsinau o wledydd mewn uwchgynhadledd heddwch yn y Swistir wedi datgan eu bod yn cefnogi Wcráin.

Maen nhw wedi cyflwyno dogfen derfynol sy'n beio Rwsia am ddinistr a dioddefaint y rhyfel.

Ond ni wnaeth sawl gwlad arwyddo'r ddogfen, gan gynnwys India, De Affrica a Saudi Arabia.

Bwriad y digwyddiad o dan lywyddiaeth Arweinydd Wcráin, Volodymyr Zelensky oedd trafod egwyddorion sylfaenol ar gyfer dod â'r rhyfel yn Wcráin i ben.

Roedd mwy na 90 o wledydd a sefydliadau byd-eang wedi mynychu'r trafodaethau yn Burgenstock ger Lucerne dros y penwythnos.

Ni chafodd Rwsia ei gwahodd i'r digwyddiad, ac fe wnaeth China - ei chynghreiriad pwysicaf - wrthod mynychu.

Mae'r ddogfen derfynol yn galw am adfer rheolaeth Wcráin dros orsaf ynni niwclear Zaporizhzhia yn ogystal â phorthladdoedd y wlad ar Fôr Azov, sydd i gyd o dan feddiant Rwsia ar hyn o bryd.

Mae'r ddogfen hefyd yn cyfeirio at oresgyniad Rwsia fel "rhyfel", label y mae Moscow wedi'i wrthod.

Mae materion dyngarol fel dychwelyd carcharorion hefyd yn cael eu trafod.

Mae trefnwyr y digwyddiad yn gobeithio cyhoeddi ail uwchgynhadledd i adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni.

'Negeseuon wltimatwm'

Daw ar ôl i Arweinydd Rwsia, Vladimir Putin gyflwyno cytundeb ar gyfer cadoediad ddydd Gwener.

Roedd y cynnig yn dilyn patrwm tebyg i ddatganiadau blaenorol gan swyddogion Rwsia, gan gynnwys amodau yr oedd Wcráin eisoes wedi eu gwrthod.

Roedd yr amodau hyn yn gofyn i Wcráin drosglwyddo pedair talaith ddwyreiniol i Rwsia, yn ogystal ag ymrwymo'n ffurfiol i fyth ymuno â NATO.

Mae'r Arlywydd Zelensky wedi disgrifio'r cynnig fel "negeseuon wltimatwm" tebyg i rai Hitler.

Dywedodd wrth sianel Sky TG24 yr Eidal: "Mae'r negeseuon hyn yn negeseuon wltimatwm. Dyma'r un peth a wnaeth Hitler, pan ddywedodd 'rhowch ran o Tsiecoslofacia i mi a bydd yn dod i ben yma'."

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.