Chwilio am emyn fwyaf poblogaidd Cymru
Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol wedi lansio ymgyrch i ddod o hyd i emyn fwyaf poblogaidd Cymru.
Fel rhan o ddathliadau'r rhaglen yn 60 oed, fe fydd y dewis sy'n dod i'r brig yn cael ei datgelu mewn rhaglen arbennig yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn yr Hydref.
Bydd y cyflwynydd Huw Edwards yn datgelu’r cyfan, gyda pherfformiadau wedi’u trefnu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Cafodd rhestr hir o 20 emyn poblogaidd ei llunio gan banel o arbenigwyr.
Yr Emynau
Arwelfa - Arglwydd gad im dawel orffwys
Blaenwern - Tyred Iesu i'r anialwch
Bro Aber - O tyred i'n gwaredu, Iesu Da
Bryn Myrddin - Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb
Builth - Rhagluniaeth fawr y nef
Clawdd Madog - Os gwelir fi bechadur
Coedmor - Pan oedd Iesu dan yr hoelion
Cwm Rhondda - Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Dim ond Iesu - O fy Iesu bendigedig
Ellers - Pan fwyf yn teimlo'n unig lawer awr
Godre'r Coed - Tydi sy'n deilwng oll o'm cân
Gwahoddiad - Mi glywaf dyner lais
In Memoriam - Arglwydd Iesu arwain f'enaid
Pantyfedwen - Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist fab Duw
Penmachno - Ar fôr tymhestlog teithio rwyf
Pennant - Dyma gariad fel y moroedd
Rhys - Rho im yr hedd
Sirioldeb - Un fendith dyro im
Ty Ddewi - Mi dafla maich oddi ar fy ngwar
Tydi a roddaist - Tydi a roddaist liw i'r wawr
Yn rhan o'r panel roedd Dr Rhidian Griffiths, Huw Tregelles Williams, Delyth Morgans Phillips, Rhiannon Lewis, Trystan Lewis, Parchedig Rob Nicholls, Rhodri Darcy, Parchedig John Gwilym Jones, Catrin Angharad Jones, Mererid Hopwood, John S Davies a Karen Owen.
‘Barn bendant iawn’
Wrth lansio’r bleidlais, dywedodd Huw Edwards: "Mae gen i farn bendant iawn ar yr emyn gorau! Tybed a fydd pobl Cymru yn cytuno?
"Dyma gyfle arbennig i ddathlu elfen bwysig o'n diwylliant, a gwneud hynny gyda chymorth miloedd o wylwyr S4C.
"Edrychaf ymlaen at ddatgelu'r canlyniad a llywio'r dathlu yn Neuadd Dewi Sant yn yr hydref.
Mae modd pleidleisio ar wefan s4c.cymru/dechraucanu ac mae'r dyddiad cau am hanner nos ar 30 Awst 2021.
Llun: S4C