Newyddion S4C

Cerddwr wedi marw ar ôl disgyn oddi ar fynydd yn Eryri

14/06/2024
Tryfan

Mae cerddwr wedi marw ar ôl disgyn oddi ar fynydd Tryfan yn Eryri.

Cafodd aelodau Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw nos Wener 7 Mehefin ar ôl i berson weld cerddwr yn disgyn oddi ar ochr deheuol y mynydd.

Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei alw i’r lleoliad, gyda thimau Gwasanaeth Achub Mynydd yr Awyrlu o RAF y Fali aG RAF Lossiemouth, oedd yn hyfforddi yn yr ardal, yn cynorthwyo.

Daeth criw’r hofrennydd o hyd i’r cerddwr, ond nid oedd wedi goroesi’r gwymp.

Cafodd y corff ei dywys i lawr i Gwm Tryfan gan ddefnyddio rhaffau, cyn cael ei hebrwng oddi yno gan Wylwyr y Glannau.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen bod eu “meddyliau gyda theulu a ffrindiau” y cerddwr.

Llun: Facebook/Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.