Newyddion S4C

'Camgymeriad difrifol' oedd betio ar amseru'r Etholiad Cyffredinol medd ymgeisydd Ceidwadol

13/06/2024

'Camgymeriad difrifol' oedd betio ar amseru'r Etholiad Cyffredinol medd ymgeisydd Ceidwadol

Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr wedi dweud ei fod wedi gwneud camgymeriad difrifol wedi iddo gyfaddef ei fod wedi betio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.

Craig Williams oedd Ysgrifenydd Seneddol Preifat y Prif Weinidog Rishi Sunak ar y pryd pan osododd y bet. 

Wrth ymateb i ohebydd y BBC ddydd Iau, dyweodd Mr Williams ei fod wedi gwneud " camgymeriad difrifol heb amheuaeth ac rwyf yn ymddiheuro."

“Ni fydd modd i mi ddweud mwy na fy natganiad gan ei fod yn broses annibynnol. Mae’r Comisiwn Hapchwarae yn edrych ar hyn.”

Ni wnaeth sylw pan ofynnwyd iddo a oedd wedi cael gwybodaeth fewnol am union ddyddiad yr etholiad - 4 Gorffennaf - o flaen llaw.

Mae'r Comisiwn Hapchwarae yn ymchwilio i'r mater yn dilyn honiad am y bet gan The Guardian ddydd Mercher. 

Dywedodd y papur newydd fod Mr Williams wedi gosod bet o £100 yn dyfalu ar union ddyddiad y byddai'r etholiad yn cael ei chynnal.

Dywedodd Mr Williams mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw ddydd Mercher: "Fe wnes i osod bet ar yr Etholiad Cyffredinol rhai wythnosau yn ôl. O ganlyniad, mae rhai ymholiadau'n cael eu cynnal, a fe fydda i'n cydweithredu â rheiny. Dwi ddim eisiau i hyn dynnu sylw o'r ymgyrch."

Tra'n Aelod Seneddol hen etholaeth Trefaldwyn cyn galw'r etholiad, roedd Mr Williams yn aelod allweddol o dîm y Prif Weinidog, ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng Mr Sunak ac Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Mae papur newydd y Guardian yn dweud fod Mr Williams wedi gosod bet o £100, ychydig ddyddiau cyn i'r Prif Weinidog gyhoeddi y byddai'r Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf. 

Mae'r papur yn dweud y byddai bet lwyddiannus o'r fath wedi ennill £500.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: "Rydan ni'n ymwybodol o gyswllt rhwng ymgeisydd Ceidwadol a'r Comisiwn Hapchwarae. Mae'n fater personol i'r unigolyn dan sylw."

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Daisy Cooper: “Rhaid i Rishi Sunak roi’r gorau i fod mor wan a galw ymchwiliad gan Swyddfa’r Cabinet i’r sgandal ddiweddaraf. 

"Mae angen yr ymchwiliad hwn i gyrraedd at waelod pwy oedd yn gwybod beth a phryd a darganfod a oedd Craig Williams yn gwybod dyddiad yr etholiad ar yr adeg y gosodwyd y bet."

Image
Maldwyn a Glyndŵr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.