NASA yn darlledu argyfwng ffug yn y gofod drwy gamgymeriad
Fe wnaeth NASA ddarlledu argyfwng ffug yn y gofod drwy gamgymeriad gan wneud i wrandawyr bryderu fod rhywbeth wedi mynd o’i le ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol.
Roedd asiantaeth ofod yr Unol Daleithiau wedi creu darllediad o ofodwyr yn cael eu trin am salwch yn y gofod er mwyn hyfforddi darpar-ofodwyr ar y ddaear ond cafodd ei ddarlledu drwy gamgymeriad ar eu sianel YouTube byw.
Clywodd gwrandawyr brynhawn Mercher bod gofodwr wedi mynd yn sâl, bod angen brysio i'w dynnu allan o'i siwt ac mai “prin” oedd yr arwyddion o fywyd.
O ganlyniad cyhoeddodd sawl defnyddiwr negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn poeni fod yna argyfwng go iawn ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol.
Inline Tweet: https://twitter.com/Space_Station/status/1801043194253127963
Bu’n rhaid i NASA gyhoeddi neges er mwyn tawelu meddyliau dilynwyr ar ei ffrwd X, Twitter gynt.
“Nid oes unrhyw sefyllfa frys ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol,” medden nhw.
Ychwanegodd NASA bod y gofodwyr ar yr orsaf ofod ryngwladol yn fyw ac yn iach.