Rees-Zammit yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Llewod

NS4C

Bydd Louis Rees-Zammit yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Llewod yn eu gêm yn erbyn yr Emirates Lions ddydd Sadwrn.

Ymhlith y Cymry eraill sydd ar dîm Wayne Pivac mae Josh Adams, Wyn Jones a Taulupe Faletau.

Yr Albanwr, Stuart Hogg fydd yn gapten ar y tîm wrth iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch yn Johannesburg.

Wrth gyhoeddi, dywedodd Pivac fod “cyfuniadau newydd o chwaraewyr” yn y tîm.

“Fy llongyfarchiadau i bawb sy’n chwarae eu gêm gyntaf fel un o’r Llewod,” meddai.

“Ac i Hoggy hefyd, dwi’n siŵr y bydd yn arwain yr ochr gydag esiampl.”

Y tîm llawn: Hogg; Rees-Zammit, Harris, Farrell, Adams; Russell, Price; W Jones, George, Sinckler, Itoje, Hill, Lawes, H Watson, Faletau.

Eilyddion: Cowan-Dickie, Vunipola, Fagerson, Henderson, Simmonds, Davies, Aki, Daly

Llun: Asiantaeth Huw Evans