Newyddion S4C

Gwaith i wella ffordd Blaenau’r Cymoedd ‘wedi tarfu’n sylweddol ar gymunedau lleol’

13/06/2024
A465

Mae oedi i’r gwaith i wella ffordd Blaenau’r Cymoedd wedi “tarfu’n sylweddol ar gymunedau lleol” yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd ddydd Iau.

Mae adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn cydnabod bod yr A465 rhwng Gilwern a Brynmawr wedi “dwyn peth gwelliant i ddiogelwch y ffordd yn barod”.

Ond dywedodd Adrian Crompton bod y gwaith wedi tarfu’n sylweddol a “bu llawer mwy o achlysuron pan oedd y ffordd ar gau nag a fwriadwyd”.

Wrth ddechrau ar y prosiect dywedodd Llywodraeth Cymru mai am ddim ond chwe phenwythnos fyddai'r ffordd ar gau.

“Mae nifer gwirioneddol yr achlysuron pan fu ar gau wedi bod yn llawer uwch nag a fwriadwyd.,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol.

“O ran y sefyllfa ar ddiwedd mis Ebrill 2024, bu ar gau am 79 penwythnos ac ar gau dros nos ar 141 o achlysuron yn ystod yr wythnos.”

Cost

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ehangach i uwchraddio 40 cilomedr o’r A465 rhwng Y Fenni a Hirwaun trwy ei throi’n ffordd ddeuol.

Mae’r ffordd wedi bod ‘ar agor’ am dros ddwy flynedd, er bod peth gweithgarwch adeiladu yn dal i fynd rhagddo.

£227m oedd y gost oedd yn cael ei ragweld ar y dechrau ond mae bellach wedi cyrraedd £336m meddai’r adroddiad.

Dywedodd yr adroddiad fod y gost “yn llawer uwch na’r amcanestyniadau cynharach”.

Roedd “anghydfod” wedi bod o ran pwy oedd yn gyfrifol am gostau cynyddol wth i’r prosiect fynd rhagddo, meddai’r adroddiad.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod yn dysgu gwersi o’r prosiect trwy newid ei chontractau adeiladu ac adolygu ei dangosyddion perfformiad ar gyfer contractwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth yr archwilydd eu bod nhw wedi gwneud newid pellach i’r templed ar gyfer contractau, i drosglwyddo mwy o risg i’r contractwr. 

Mae’r newid yn golygu, medden nhw, os yw cost y prosiect yn cynyddu’r tu hwnt i drothwy penodol, bod hynny’n cynyddu atebolrwydd y contractwr.

‘Anodd’

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: “Mae’r A465 yn rhan bwysig o rwydwaith trafnidiaeth Cymru, ond mae’r gwaith i wella’r rhan hon wedi bod yn anodd i’r partïon a fu ynghlwm wrtho ac i’r cymunedau lleol yr effeithiwyd arnynt.

“Er bod costau disgwyliedig i bwrs y wlad wedi cael eu ffrwyno i raddau helaeth ers fy adroddiad interim yn 2020, mae stori’r prosiect ar y cyfan yn un o godiadau sylweddol mewn costau ac oedi sylweddol. 

“Mae’n dal i fod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n rhoi gwersi o’r prosiect hwn ar waith wrth iddi gyflawni cynlluniau yn y dyfodol, ac un prawf o hynny fydd effaith newidiadau a wnaed yn barod i’w threfniadau contractio. 

“Ac er bod y gweithgarwch adeiladu wedi dod i ben i raddau helaeth, mae gan Lywodraeth Cymru waith i’w wneud o hyd i adrodd yn fwy llawn ar fanteision y prosiect, gan adeiladu ar y dystiolaeth hyd yma.”

'Amynedd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: “Rydym yn ddiolchgar i Archwilio Cymru am eu hadroddiad a byddwn yn adolygu eu canfyddiadau’n ofalus.

“Dyma un o’r prosiectau seilwaith mwyaf a mwyaf cymhleth a gyflawnwyd erioed yng Nghymru.

“Yn ogystal â gwneud y ffordd yn llawer mwy diogel a gwella llif y traffig, mae’n darparu gwell cysylltiadau i wasanaethau allweddol ac yn creu cyfleoedd gwaith ac yn cefnogi mewnfuddsoddiad yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

“Rydym yn diolch i drigolion lleol am eu hamynedd wrth i ni weithio tuag at gamau olaf y prosiect.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.