Darganfod corff bachgen 17 oed mewn coedwig
12/06/2024
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai Iestyn George oedd y bachgen 17 oed y cafwyd hyd iddo wedi marw mewn coedwig ddydd Mawrth.
Roedd yr heddlu wedi cael gwybod fod Iestyn, o Graig-y-Rhacca, ar goll ddydd Llun. Am chwech o'r gloch nos Fawrth, cafodd ei gorff ei ddarganfod mewn coedwig gerllaw. Mae ei deulu wedi cael gwybod.
Mae'r heddlu'n dweud nad oes unrhyw beth amheus am ei farwolaeth, a bydd adroddiad yn cael ei baratoi i'r crwner