Euro 2024: Galw ar bobl i 'achub anifeiliaid' drwy roi rhwydi pêl-droed i gadw
Mae RSPCA Cymru yn galw ar y cyhoedd i 'helpu achub bywydau anifeiliaid' drwy roi rhwydi pêl-droed yn eu gerddi i gadw ar ôl eu defnyddio.
Er na fydd Cymru yn chwarae yn Euro 2024, mae disgwyl i'r bencampwriaeth hybu chwarae pêl-droed mewn gerddi yn ôl yr elusen.
Yn 2023, roedd yna 89 o adroddiadau o anifeiliaid yn cael eu dal mewn rhwydi yng Nghymru, gyda 13 yn Abertawe, 11 yng Nghonwy a 10 yng Nghaerdydd.
Roedd yna naw o adroddiadau yn Sir Ddinbych, pump yng Ngwynedd a dau yn Ynys Môn.
'Problem ddifrifol'
Dywedodd Swyddog Gwyddonol yr RSPCA Rebecca Machin: "Er y bydd cefnogwyr pêl-droed ar draws Cymru yn siomedig na fyddan nhw yn Euro 2024, rydym ni'n gwybod y bydd pobl yn parhau yn gyffrous ar gyfer y bencampwriaeth - ac rydym ni'n meddwl ei fod yn wych y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli i chwarae y tu allan.
"Ond gall rhwydi pêl-droed ddal, anafu ac hyd yn oed lladd bywyd gwyllt ac anifeiliaid anwes, felly mae'n hynod o bwysig fod rhwydi yn cael eu cadw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
"Mae'r broblem mor ddifrifol nes yn ystod mis Mai eleni, fe wnaethom ni ddelio â 53 o ddigwyddiadau yn ymwneud â llwynogod yn cael eu dal mewn rhwydi.
"Ond nid llwynogod yn unig sy'n cael eu heffeithio, gall draenogod a cheirw ac hyd yn oed anifeiliaid anwes gael eu dal yn angheuol mewn rhwydi."
Dywed yr elusen mai'r ffordd gyflymaf i helpu anifail sydd wedi ei ddal mewn rhwyd ydi i geisio ei ddad-glymu pan yn ddiogel ac yn bosibl iddyn nhw wneud hynny.