Newyddion S4C

Llifogydd yn rhwystro awyrennau rhag codi a glanio yn Mallorca

12/06/2024
Llifogydd Palma

Doedd awyrennau ddim yn gallu codi a glanio ym maes awyr Mallorca ddydd Mawrth oherwydd llifogydd yn dilyn storm ar yr ynys yn Sbaen.

Roedd fideos ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn awgrymu bod dŵr yn llifo o nenfwd siopau ac yn gollwng trwy ffenestri.

Cofnododd gorsaf dywydd Maes Awyr Palma de Mallorca bron i 5cm o law yr awr, gan gyrraedd uchafbwynt o hyd at 9cm mewn llai nag awr.

Cadarnhaodd Aena, sef gweithredwr y maes awyr, fod llifogydd mewn rhai o fynedfeydd a rhannau eraill o'r maes awyr.

Doedd y maes awyr ddim yn gallu gweithredu dros dro ac roedd yn rhaid i'r maes awyr roi ei gynllun brys ar waith. 

Cafodd hediadau i Mallorca eu hailgyfeirio dros dro i feysydd awyr eraill, meddai Oscar Puente, Gweinidog Trafnidiaeth Sbaen. Nid oedd awyrennau a oedd eisoes ar y safle yn cael hedfan.

Ychwanegodd Mr Puente fod y maes awyr bellach wedi dechrau gweithredu unwaith eto wrth i'r glaw glirio.

Dywedodd datganiad Aena: “Mae Maes Awyr Palma de Mallorca wedi ail-ddechrau ei weithrediadau ar ôl y storm.

“Mae awyrennau eisoes wedi hedfan a glanio a’r disgwyl yw y bydd yr hediadau sy’n cael eu dargyfeirio yn glanio yn ystod y prynhawn ym maes awyr Palma.”

Mae Aena yn argymell bod teithwyr yn cysylltu â’u cwmni hedfan cyn teithio i’r maes awyr.

Llun: Wochit
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.