Newyddion S4C

Etholiad 24: Pleidiau gwleidyddol yn gwneud mwy o ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol nag erioed

11/06/2024

Etholiad 24: Pleidiau gwleidyddol yn gwneud mwy o ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol nag erioed

Fideos byrion, bachog, tafod yn y boch sy'n arf bellach i'r pleidiau yn eu hymgyrchoedd.

Gyda miliynau yn sgrolio bob dydd, mae'n siwr i gynnwys gwleidyddol ddechrau ymddangos ar yr appiau.

Fwy nag erioed, 2024 yw blwyddyn y brwydrau etholiadol ar-lein.

"Mae dros 80% o boblogaeth y DU ar wefannau cymdeithasol.

"Mae 'na gyfle i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl.

"Facebook, Instagram, TikTok, X neu Twitter.

"Y rheswm maen nhw'n defnyddio nhw yw bod pob un yn denu cynulleidfa bach yn wahanol."

Yn ôl un sydd 'di gweithio ar ymgyrchoedd fel ymgynghorydd Mark Drakeford, diwedd y gan yw'r geiniog.

"Mae pleidiau'n gallu talu i hysbysebu ymgyrch neu ymgeisydd i grŵp penodol o bobl.

"Falle bod pobl yn barod yn gweld ymgeiswyr eu hardaloedd yn ymddangos ar eu Facebook, er bod nhw ddim yn dilyn yr unigolion.

"Dw i'n meddwl bod e'n bwysicach na curo drysau.

"Dim ond hyn a hyn o wirfoddolwyr ac oriau mewn diwrnod sydd."

Gofynnon ni i'r pleidiau yng Nghymru ddatgan faint maen nhw'n gwario ar y gwefannau cymdeithasol ond chlywon ni ddim nôl.

Yn genedlaethol, mae'n debyg mai Llafur sydd ar y blaen gan wario bron i £1.4 miliwn rhwng wythnos gyntaf Mai a Mehefin.

Gyda'r Ceidwadwyr yn gwario rhyw £750,000 y Democratiaid Rhyddfrydol rhyw £45,000, £8,000 i Reform a Phlaid Cymru rhyw £2,500.

Er i ni weld y platfformau traddodiadol yn chwarae rhan ganolog yn yr ymgyrchu wrth symud o'r sgrin fach i sgrin llai oes, mae 'na hwyl a hiwmor.

Mae 'na beryg bod camwybodaeth yn cael ei lledu hefyd.

Dros y penwythnos, mae adroddiadau bod y Ceidwadwyr yn stopio gwario ar hysbysebion ar-lein ar ôl gwario mawr ar ddechrau'r cyfnod.

Wythnos diwetha, cafodd fideo'r aelod Llafur blaenllaw Wes Streeting ei rannu.

Oedd e'n ei ddangos yn cyfeirio at Diane Abbot fel menyw ffôl.

Roedd y cyfan yn ffug.

Beth mae myfyrwyr newyddiaduraeth wedi sylwi o'r ymgyrchu ar-lein?

"Fi'n teimlo bod llawer o'r pleidiau yn defnyddio'r memes yn hytrach na son am maniffestos eu hunain i wneud jôcs am y pleidiau eraill."

"Mae 'na ddwy ochr i'r stori.

"Mae'n ddefnyddiol o ran codi ymwybyddiaeth ond i raddau ella yn tynnu pwysigrwydd yr holl beth i ffwrdd."

Pa fath o arwyddion sy'n rhoi'r awgrym i ti bod cyfrif yn ddibynadwy, bod ti'n gallu ymddiried ynddo?

"Ar TikTok, tic glas neu rywun sy'n dod ar y For You page yn aml."

O'r strydoedd i'r sgriniau bach, mae'r brwydro gwleidyddol wedi symud ymhell tu hwnt i gnocio drysau yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.