Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi lladrad 'sylweddol' o fwyty yn Llangefni

11/06/2024
Llangefni Kebab House

Mae Heddlu’r Gogledd wedi dweud eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth ar Ynys Môn wedi achos o ladrata fis diwethaf. 

Fe ddaw’r apêl wedi i gyfanswm “sylweddol” o arian parod, yn ogystal â gemwaith gael eu dwyn o fwyty ar Stryd Fawr Llangefni. 

Digwyddodd y llandrad am tua 03.00-03.50 ar fore 28 Mai, yn Nhŷ Kebab Llangefni. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leon-Portillo: “Rwy’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ac a allai fod wedi gweld unrhyw ymddygiad amheus yn ystod yr amseroedd sydd wedi’u nodi i gysylltu â ni."

Mae'r heddlu hefyd yn apelio ar drigolion sydd yn byw yn ardaloedd penodol o Langefni i gysylltu pe bai delweddau camera cylch cyfyng neu ddelweddau dashcam ganddyn nhw – gan gynnwys pobl o ardaloedd Stryd Fawr Llangefni, Ffordd Cae Sel, Stryd Y Cae a Stryd Yr Eglwys. 

Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400047781. 

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.