Newyddion S4C

Arestio dyn lleol wedi i heddlu arfog ymateb i ddigwyddiad mewn tafarn ym Mangor

10/06/2024
Bangor - Heddlu Arfog

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dyn 50 oed wedi digwyddiad mewn tafarn ym Mangor nos Sul. 

Fe wnaeth swyddogion yr heddlu fynychu Gwesty'r Castell yn y ddinas ychydig wedi 19:00 yn dilyn adroddiadau fod pobl wedi gweld arf. 

Fe gafodd dyn lleol 50 oed ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn, ac fe gafodd dryll aer ei gymryd oddi yno. 

Dywedodd yr Arolygydd Andy Davies o Heddlu'r Gogledd: "Hoffwn ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth tra'r oedd yna bresenoldeb yr heddlu yng nghanol dinas Bangor nos Sul.

"Fe wnaeth hyn yn ddealladwy achosi pryder ymysg trigolion ond hoffwn dawelu eu meddwl mai digwyddiad ynysig oedd hwn yn ymwneud ag arf ffug ac nid oes yna bryderon parhaus i'r gymuned."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.