Newyddion S4C

'Cannoedd' wedi eu lladd yn Gaza wrth i wystlon Israel gael eu hachub

09/06/2024
Gaza
Cafodd 274 o bobl eu lladd mewn cyrch gan Israel ar wersyll ffoaduriaid a wnaeth arwain at achub pedwar gwystl, yn ôl gweinidogaeth iechyd Gaza.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth lluoedd Israel, gyda chefnogaeth streiciau awyr, ymladd gyda Hamas yng ngwersyll ffoaduriaid Nuseirat ac o'i gwmpas, gan ryddhau'r gwystlon.

Mae Noa Argamani, 26, Almog Meir Jan, 22, Andrei Kozlov, 27, a Shlomi Ziv, 41, a gafodd eu cipio o ŵyl gerddoriaeth Nova ar 7 Hydref wedi cael eu dychwelyd i Israel.
 
Mae byddin Israel wedi amcangyfrif bod llai na 100 o bobl wedi marw yn y cyrch, a wnaeth bara am ddwy awr.
 
Roedd llefarydd ar ran byddin Israel, Daniel Hagari, wedi dweud bod y cyrch yn un "chymhleth, gyda lefel risg uchel", oedd wedi ei gynllunio ar ôl derbyn "cudd-wybodaeth drachywir".
 
Ond mae'r weinidogaeth iechyd yn dweud fod 274 o bobl wedi eu lladd, gan gynnwys plant a sifiliaid eraill, a hyd yma wedi rhyddhau enwau 86 o'r bobl a fu farw.
 
Fe ddywedodd Josep Borrell, pennaeth materion tramor yr Undeb Ewropeaidd, ei fod yn condemnio'r cyrch yn y "termau cryfaf bosib".
 
"Mae'r adroddiadau o Gaza am gyflafan arall o sifiliaid yn erchyll," dywedodd ar gyfrwng cymdeithasol X.
 
Dywedodd un o weinidogion Israel bod yr Undeb Ewropeaidd wedi condemnio Israel am achub ei dinasyddion, yn hytrach na chondemnio Hamas am "guddio y tu ôl i sifiliaid".
 
Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.