Etholiad 24: Ymgeisydd Reform ym Mlaenau Gwent a Rhymni yn tynnu nôl
Mae ymgeisydd Reform UK yng Nghymru wedi tynnu nôl o’r etholiad cyffredinol yn dilyn honiadau ei fod wedi ailbostio cynnwys hiliol ar-lein.
Roedd Stewart Sutherland wedi bod yn ymgeisydd ei blaid ar gyfer etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni yn ne Cymru.
Mewn post ar X, dywedodd ei fod wedi “ceisio cynnal ymgyrch mor lân â phosib ond yn ofer”.
Fe ychwanegodd: “Nid wyf am ddweud dim byd pellach ar hyn o bryd”.
Cadarnhaodd Reform UK fod Mr Sutherland "yn anffodus wedi tynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl ac er gwaethaf ymdrechion enfawr mewn cyfnod byr iawn o amser i gael rhywun yn ei le dros y llinell".
Nid yw'r blaid wedi gwneud sylw am y rheswm y tu ôl iddo dynnu'n ôl.
Honnodd grŵp o'r enw Reform Party UK Exposed fod Mr Sutherland wedi ailbostio cynnwys hiliol amrywiol ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl y Times roedd wedi hyrwyddo neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn allanol gan arweinydd y grŵp asgell dde eithafol Britain First, a ddywedodd fod llwyddiant gwleidyddol y Prif Weinidog Rishi Sunak a Maer Llundain Sadiq Khan yn dystiolaeth o’r “Great Replacement”, sef damcaniaeth cynllwyn hiliol.
Llun: X/Stewart Sutherland