Newyddion S4C

Teyrnged teulu i feiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad yn y Rhondda

08/06/2024
Dean Williams

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i feiciwr modur fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.

Bu farw Dean Williams, 53, o ganlyniad i anafiadau a gafwyd yn y digwyddiad yn Heol yr Eglwys, Ton Pentre, a ddigwyddodd toc wedi 06:00.

Mewn teyrnged deuluol, dywedodd gwraig Dean, Laura Williams: 

“Dean Williams – Dean Arms, Dean. Gŵr, tad cariadus, taid, brawd, brawd yng nghyfraith, ewythr a thad i'r babanod ffwr.

“Bu farw fy ngŵr hardd yn oriau mân fore Gwener mewn gwrthdrawiad ffordd, gan reidio’r cerbyd yr oedd yn ei garu.

“Roedd ganddo dri angerdd yn ei fywyd: ei deulu, ei feiciau modur a’r gampfa. Bachgen hoffus o Drealaw, y bydd colled fawr ar ei ôl.

“Rydyn ni fel teulu yn diolch i bawb am eu geiriau cariadus a charedig. Byddwch yn amyneddgar wrth inni ddod i delerau gyda’r golled drasig, a byddwn i gyd yn ateb maes o law. Diolch, Laura a’r teulu.”

Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad a oedd yn ymwneud â beic modur Suzuki du.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 2400187127.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.