Newyddion S4C

Nifer y myfyrwyr sy’n astudio rhan o’u cwrs meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu

07/06/2024

Nifer y myfyrwyr sy’n astudio rhan o’u cwrs meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu

Erbyn hyn, mae Elin ar ei phedwaredd blwyddyn yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'n un o nifer sy 'di dilyn y cynllun Doctoriaid Yfory.

"'Swn i wir heb allu ymgeisio am brifysgol heb Doctoriaid Yfory yn enwedig yng Nghymru.

"O'dd gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

"O'dd e wir mor gefnogol.

"O'ch chi'n dod i nabod pobl eraill oedd yn ymgeisio a'r darlithwyr.

"Ni dal efo'r cysylltiad yna efo nhw hyd heddiw."

Pa mor bwysig oedd gwneud y cysylltiad cyn mynd i'r brifysgol?

"Ni'n gorfod gwneud y penderfyniadau mor ifanc yn enwedig ar gyfer meddygaeth.

"Ar y pryd, chi ddim yn gwybod ai dyma'r peth i fi."

Ar ôl dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd mae'r cynllun wedi ehangu i brifysgolion Abertawe a Bangor.

"Mae eisiau denu mwy o fyfyrwyr o Gymru i astudio meddygaeth.

"Mae hwn 'di agor y drws achos maen nhw'n cael gwybod am y disgwyliadau.

"Mae'n cael gwybod be i wneud yn yr ysgol a'r pynciau ar gyfer Lefel A.

"Maen nhw'n dod i'r brifysgol i weld beth mae'r myfyrwyr yn gwneud."

Mae'r data sy'n mesur llwyddiant y cynllun yn dangos bod y nifer sy'n dewis astudio rhan o'u cwrs yn Gymraeg wedi cynyddu ers ei sefydlu.

Rhwng 2017 a 2022, roedd y nifer yn astudio 40 credyd yn Gymraeg wedi cynyddu o 20 i 105 a'r rhai'n astudio pump credyd wedi codi o 70 i 125.

Mae'r cynllun wedi mynd o nerth i nerth a'r llwyddiant wedi arwain at gynllun Gweithwyr Iechyd Yfory.

"Ni'n gwybod bod heriau'n wynebu'r sector iechyd yn gyffredinol o ran recriwtio a chadw staff.

"Ni'n adeiladu ar lwyddiant cynllun Doctoriaid Yfory ac yn ymestyn e i gynnwys Gweithwyr Iechyd Yfory sy'n cynnwys cyrsiau fel fferylliaeth, ffisiotherapi, therapi iaith a lleferydd."

Nid dim ond y myfyrwyr sy'n manteisio.

Yn ôl Elin, mae darparu gwasanaeth yn Gymraeg yn bwysig i'r cleifion.

"Mae gofal iechyd yn rhywbeth mor bersonol a mor bwysig.

"Mae'n hanfodol i allu trafod pethau personol drwy'r Gymraeg.

"Mae cael cynllun sy'n hybu'r iaith o fewn y maes yn angenrheidiol."

Wrth i'r cynllun ehangu, bydd rhagor o weithwyr iechyd y dyfodol yn gallu gweithio gyda'r Gymraeg wrth galon eu gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.