Newyddion S4C

Cymeradwyo ail-adeiladu mosg yng Nghaerdydd wedi pryderon am barcio

07/06/2024
Cathays mosque

Mae cynlluniau ar gyfer mosg newydd a chanolfan gymunedol yng Nghaerdydd wedi cael eu cymeradwyo er gwaethaf pryderon am broblemau traffig.

Cafodd y cais, i ail-adeiladu Mosg Medina ar Stryd Lucas yn Cathays, ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir ddydd Iau.

Mae rhai trigolion yn gwrthwynebu’r cynllun, gan ddweud y bydd yn gwaethygu parcio yn yr ardal pan fydd digwyddiad ar y safle, gydag un person yn dweud bod ffens a wal wedi'u difrodi unwaith gan geir yn troi o gwmpas ar eiddo preifat.

Dywedodd cadeirydd ymddiriedolwyr y mosg a chanolfan gymunedol, Javaid Iqbal, fod y ganolfan wedi cydweithredu â thrigolion ar y materion penodol hyn a ddigwyddodd tua dwy flynedd yn ôl.

Dywedodd hefyd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw faterion sydd wedi digwydd ers hynny.

Image
Parcio yn Cathays
Parcio yn Cathays, gerllaw Medina

Dywedodd: “Rwyf wedi bod at y trigolion ychydig o weithiau ac rydym wedi eu gwahodd i’r mosg hefyd.

“Fe wnaethon ni ymddiheuro ac fe wnaethon nhw dderbyn ein hymddiheuriad a chyfaddef nad ein bai ni oedd e, ond mae’n dal i fod yn bryder iddyn nhw.

“Rydym wedi ceisio addysgu pobol. Rydyn ni wedi gosod arwyddion, rydyn ni wedi rhoi conau allan. ”

Er gwaethaf hyn, mae trigolion yn dal i deimlo bod parcio yn broblem yn yr ardal ac nad yw hyn wedi'i adlewyrchu'n briodol yn y cais cynllunio.

Roedd aelodau'r pwyllgor yn gadarnhaol am ddyluniad yr adeilad, ond hefyd yn codi pryderon am barcio yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Wong: “Rwy’n meddwl ei fod yn ddyluniad gwirioneddol wych o ran yr adeilad, ond mae fy mhryderon yr un peth… yn enwedig ynghylch yr effaith ar barcio yn yr ardal leol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.