Newyddion S4C

'Angen chwalu rhwystrau': Tlodi plant yn uchel ym mron pob etholaeth yng Nghymru

06/06/2024
S4C

Mae ymchwilwyr wedi galw am weithredu gan lywodraeth nesaf San Steffan gan ddweud bod tlodi plant yn uchel ym mron pob etholaeth yng Nghymru.

Mae’r ymchwil gan Brifysgol Loughborough yn awgrymu bod o leiaf un ym mhob pedwar plentyn yn byw mewn tlodi yn 88% o etholaethau Cymru.

Roedd hynny’n cymharu gyda 66% sef canran yr etholaethau ar draws y Deyrnas Unedig i gyd lle’r oedd o leiaf un ym mhob pedwar plentyn yn byw mewn tlodi.

Dywedodd yr ymchwilwyr bod cydberthynas amlwg yn y data rhwng plant yn byw mewn tlodi a faint o deuluoedd oedd yn cael eu heffeithio gan bolisi ‘dau blentyn’ y llywodraeth.

Cafodd y terfyn dau blentyn ei gyflwyno gan Lywodraeth Geidwadol yn 2017.

Mae’n cyfyngu Credyd Treth Plant a Chredyd Cynhwysol i’r ddau blentyn cyntaf yn y rhan fwyaf o aelwydydd.

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer wedi dweud na fydd gan lywodraeth Lafur “yr adnoddau” i gael gwared â’r terfyn er y byddai hynny’n ddymunol.

‘Gormod’

Dywedodd Joseph Howes, cadeirydd y Glymblaid Dileu Tlodi Plant a phrif weithredwr yr elusen Buttle UK nad oedd modd “gwadu’r hyn mae’r data yn ei ddangos”.

“Mae gormod o blant mewn sefyllfa sy’n effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg, a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“Mae’n bryd chwalu’r rhwystrau hyn a bydd yr etholiadau yn llwyfan hollbwysig ar gyfer ymrwymo i newidiadau systemig i godi teuluoedd a rhoi cyfle i bob plentyn ffynnu.”

Roedd lefelau tlodi plant ar eu huchaf yng ngogledd orllewin Lloegr, gyda 90% o etholaethau gydag o leiaf un o bob pedwar o blant mewn tlodi, ac yna gogledd ddwyrain Lloegr (89%), gorllewin canolbarth Lloegr (89%) a Chymru (88%).

Roedd y lefelau ar eu hisaf yng Ngogledd Iwerddon (22%), dwyrain Lloegr (31%) a de-ddwyrain Lloegr (44%), yn ôl yr ymchwil.

Roedd gan yr Alban ychydig dros hanner yr etholaethau (54%) â chyfradd tlodi plant o leiaf un o bob pedwar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.