Newyddion S4C

Dirwy o £1.34 miliwn i Openreach wedi i weithiwr foddi ger Bangor

05/06/2024
Alun Owen

Mae cwmni Openreach wedi cael dirwy o £1.34 miliwn wedi i un o'u peirianwyr foddi mewn afon ger Bangor. 

Clywodd llys fod Alun Owen, 32 oed, oedd yn dad i efeilliaid, wedi llithro tra'n ceisio ail-gysylltu llinell ffon ar draws yr afon ger Abergwyngregyn ym mis Hydref 2020.

Mae teulu Mr. Owen wedi beirniadu'r cwmni, gan ddweud y gallan nhw fod wedi atal y ddamwain rhag digwydd.  

Plediodd y cwmni'n euog i fethu sicrhau diogelwch Mr Owen.

Dywedodd Nathan Cook ar ran yr erlyniad nad oedd Openreach wedi sicrhau bod eu staff yn cael digon o hyfforddiant ynglŷn â  gweithio yn agos i ddŵr, a'u bod nhw'n caniatau i weithwyr weithio ar eu pennau'u hunain.

"Adeg marwolaeth Alun, roedd 518 o beirianwyr Openreach wedi cwblhau cwrs diogelwch yn ymwneud  â  gweithio'n agos i ddŵr," meddai Mr Cook. "Mae yna tua 25,000 o beirianwyr Openreach."

Doedd y cwrs ddim yn orfodol, er bod undeb y peirianwyr yn teimlo y dylai fod.

Clywodd y llys fod llif yr afon yn gryf ar y diwrnod, a roedd perchennog   tŷ cyfagos wedi dweud wrth Alun Owen: "Jest gad o, dydi o ddim yn bwysig."

Ond wrth fynd i mewn i'r afon, llithrodd Mr Owen, a cafodd ei ysgubo i ffwrdd gan y llif.

Cafodd Openreach hefyd eu gorchymyn i dalu £16,000 mewn costau.

Dywedodd y barnwr Gwyn Jones:"Mae'n rhaid i'r ddirwy adlewyrchu difrifoldeb y drosedd."

"Fydd cosb y llys heddiw ddim yn lleddfu'r boen a'r golled i deulu Alun Owen." 

Wedi'r dyfarniad, roedd teulu Mr Owen yn feirniadol o Openreach, gan ddweud bod y cwmni wedi dangos agwedd di-hid tuag at ddiogelwch eu gweithwyr.

Dywedodd y teulu mai'r hyn oedd wedi gwneud eu galar yn waeth oedd darganfod fod gan Openreach offer arbenigol y gallen nhw fod wedi ei ddefnyddio i gywiro'r nam ger yr afon, yn hytrach na gyrru Alun yno.

"Doedd 'na erioed unrhyw amheuaeth fod Openreach yn gwbl gyfrifol am farwolaeth Al - marwolaeth oedd yn gwbl bosib ei atal," medde nhw.

"Yr hyn sy'n siomedig dros ben ydi bod Openreach dros y blynyddoedd wedi dangos diffyg empathi llwyr tuag at deulu Al. Does dim esgus am hynny." 

Dywedodd bargyfreithiwr ar ran Openreach fod y cwmni eisiau ymddiheuro i'r teulu am yr hyn ddigwyddodd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.