Ysgolion Caerffili yn defnyddio ioga i wella ymddygiad disgyblion
Mae ysgolion yng Nghaerffili yn defnyddio dosbarthiadau ioga i wella ymddygiad disgyblion - a mae nhw'n dweud bod yr ymateb hyd yma yn galonogol.
Mae ioga yn un o nifer o gamau mae Cyngor Caerffili yn gymryd i ddelio â “ffactorau a allai fod yn sail i ymddygiad disgyblion”.
Dywedodd y mwyafrif o’r plant a gymerodd rhan fod y sesiynau’n bleserus a chymwynasgar.
Ac mae staff yn credu bod y sesiynau, ynghyd â hyfforddiant, wedi eu gwneud yn “fwy ymwybodol o sut a phryd i ddelio ag ymddygiad plant yn fwy priodol”.
Y bwriad yw lleihau'r nifer o waharddiadau yn ysgolion y sir, meddai'r cyngor.
Yn ôl adroddiad, mae'r nifer o ddisgyblion sy'n cael eu gwahardd yng Nghaerffili wedi codi’n flynyddol ers y pandemig.
Yn y flwyddyn academaidd 2020/21, roedd 14 o ddisgyblion wedi eu gwahardd o ysgolion y sir.
Ond roedd y ffigwr wedi cynyddu i 36 o ddisgyblion yn 2021/22, ac yna 40 o ddisgyblion yn 2022/23.
'Effaith fawr'
Yn ôl staff yr ysgol, mae “lefelau cynyddol o ymddygiad aflonyddgar cyffredinol a pharhaus, llai o ymgysylltu, mwy o bryder, a llai o wydnwch” ymhlith plant.
Cyfaddefodd y cyngor bod ysgolion yn ei chael yn “anodd eu rheoleiddio”, gan arwain at fwy o waharddiadau.
Dywedodd Dr Kyla Honey, prif seicolegydd addysg y cyngor, nad yw cyfraddau gwahardd yr ardal “yn cymharu’n ffafriol” ag awdurdodau eraill Cymru.
Y gobaith yw y bydd sesiynau lles – sydd hefyd yn cynnwys therapi Lego – yn cael effaith gadarnhaol.
Mae rhai ysgolion wedi disgrifio’r mentrau fel rhai sy’n cael “effaith fawr” ac yn helpu disgyblion i “ddeall o ble mae eu pryder yn dod”.
Mae data cyfredol yn dangos 26 o waharddiadau ar draws Caerffili hyd yn hyn y flwyddyn academaidd hon.
Dywedodd y cyngor bod hyn yn awgrymu bod y ffigwr yn “gwastatáu” o gymharu â'r blynyddoedd diwethaf.
Llun: Wikimedia Commons