Arestio dyn wedi ymosodiad honedig ar fachgen 10 oed yn Abertawe
04/06/2024
Mae dyn 42 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar fachgen 10 oed yn Abertawe.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig yn ystod protest a gafodd ei chynnal mewn cefnogaeth tuag at Balesteina y tu allan i Barc Tawe ar 31 Mai.
Cafodd y dyn lleol ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i swyddogion Heddlu De Cymru barhau gyda’u hymchwiliad.
Mae’r llu hefyd wedi arestio menyw 42 oed ar amheuaeth o ymosod, yn ogystal â merch 12 oed ar amheuaeth o ymosod yn hiliol.