Dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll ger Wrecsam
04/06/2024
Mae corff wedi ei ddarganfod wrth chwilio am ddyn oedd ar goll ger Wrecsam.
Ychydig cyn 15.15 ddydd Mawrth cafodd yr heddlu wybod am gorff yn y dŵr ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, Cefn Mawr, sydd ger traphont Pontcysyllte.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Roberts: “Nid yw’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto ond mae teulu’r dyn wedi cael gwybod. Mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg hynod anodd hon.
“Diolch i’r gymuned leol a phartneriaid sydd wedi cynorthwyo gyda’r chwiliadau dros y dyddiau diwethaf.”