Newyddion S4C

Teulu yn rhoi teyrnged i'w merch fu farw ar wyliau yn Florida

04/06/2024
Anna Beaumont

Mae teulu o Gaerdydd wedi rhoi teyrnged i'w merch ifanc fu farw tra ar wyliau yn Florida.

Cafwyd hyd i Anna Beaumont, 13 oed, mewn pwll nofio yn Discovery Cove, Orlando.

Bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach wedi ymdrechion parafeddygon i'w hachub.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad: “Roedd Anna yn enaid hardd sydd wedi cael ei chymryd oddi wrthym mewn damwain drasig.

“Rydym wedi ein syfrdanu gan ei cholled, ond ni fydd hi byth yn cael ei hanghofio.

“Hoffem ddiolch i’r timau ymateb brys a staff ysbyty Orlando a geisiodd mor galed i achub bywyd Anna.

“Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatganiadau pellach ac yn gofyn am breifatrwydd ar yr amser hynod anodd hwn.”

'Annwyl'

Dywedodd Andrew Williams, pennaeth ysgol Anna, sef Ysgol Gyfun Radur: “Mae meddwl am golli plentyn yn daith annirnadwy a gwn fy mod yn siarad ar ran cymuned yr ysgol gyfan pan ddywedaf fod ein meddyliau gyda theulu Anna wrth iddynt geisio i ddod i delerau â'u colled.

“Roedd Anna yn aelod annwyl o’n teulu ysgol, a bydd ei habsenoldeb yn cael ei deimlo’n fawr gan ddisgyblion, staff a phawb a gafodd y fraint o’i hadnabod.

“Fe wnaeth ei hysbryd, ei charedigrwydd a’i phresenoldeb gyffwrdd â chymaint o fywydau.”

Mae Discovery Cove yn gyrchfan cynhwysol ac yn chwaer barc i SeaWorld Orlando ac Aquatica Orlando.

Mewn ymateb i'r digwyddiad, dywedodd y cwmni wrth y cyfryngau lleol: “Ymatebodd ein staff i argyfwng yn ymwneud â gwestai ddoe (28 Mai).

“Darparodd ein tîm ofal a chysylltodd â Gwasanaeth Tân ac Achub Orange County.

“Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, fe wnaethon nhw gymryd drosodd a chludo'r gwestai i ysbyty cyfagos.

“Allan o barch at breifatrwydd ein gwesteion, nid ydym yn darparu unrhyw wybodaeth iechyd. Mae ein meddyliau gyda'r teulu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.