Newyddion S4C

Byddin Awstralia i recriwtio milwyr o’r DU

04/06/2024
Byddin Awstralia

Bydd Llu Amddiffyn Awstralia (ADF) yn recriwtio milwyr o lond llaw o wledydd tramor, gan gynnwys y DU.

Yn sgil trafferthion recriwtio, mae Awstralia yn ceisio cryfhau ei byddin.

Mae'n dweud bod y wlad yn wynebu bygythiadau rhanbarthol cynyddol.

O fis Gorffennaf, gall pobl sy’n dod o Seland Newydd ac sy’n breswylwyr parhaol yn Awstralia wneud cais i ymuno â Byddin Awstralia.

Ac o fis Ionawr, bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i recriwtiaid o'r DU, yr UDA a Chanada.

Dywedodd Gweinidog Amddiffyn Awstralia, Richard Marles, fod y newidiadau i’r gofynion i fod yn filwr yn “hanfodol i gwrdd â heriau diogelwch y genedl dros y degawd nesaf a thu hwnt”.

Cynghreiriaid

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Awstralia wedi bod yn ceisio hybu cysylltiadau â’r DU a’r UDA.

Yn 2021, fe wnaeth y tair gwlad arwyddo cytundeb Aukus – cynghrair amddiffyn a diogelwch gyda’r nod o wynebu ymlediad milwrol Tsieina yn rhanbarth yr Indo-Môr Tawel.

Cyhoeddodd llywodraeth flaenorol Awstralia yn 2020 A$38 biliwn (£19.8 biliwn) o gyllid i gynyddu nifer y personél mewn lifrai 30% o fewn dau ddegawd.

Ond dywedodd y Gweinidog Personél Amddiffyn, Matt Keogh, fod lefelau isel o ddiweithdra yn Awstralia wedi ei gwneud yn “anodd iawn” i recriwtio milwyr.

Yn ôl ffigyrau diweddar Llywodraeth Awstralia, mae’r ADF eisoes yn brin o tua 5,000 o bobl.

Nod y rheolau newydd yw cynyddu'r nifer o recriwtiaid yn sylweddol, meddai.

Yn ogystal â bodloni safonau mynediad a gofynion diogelwch yr ADF, mae’n rhaid i'r rhai sy'n dymuno ymuno fod wedi bod yn drigolion parhaol yn y wlad ers dros flwyddyn.  

Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn gymwys ar gyfer dinasyddiaeth Awstralia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.