Newyddion S4C

Y 'negeseuon WhatsApp' yn achos y pedoffeil Neil Foden

03/06/2024
Neil Foden/Negeseuon

RHYBUDD: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid.

Mae sgrinluniau [screenshots] o negeseuon WhatsApp rhwng cyn-bennaeth dwy ysgol yng Ngwynedd a gafwyd yn euog o gam-drin plant yn rhywiol ac un o'i ddioddefwyr wedi cael eu rhannu.

Cafodd Neil Foden, 66 oed, o Hen Golwyn ei ddyfarnu'n euog wedi achos llys a barodd dair wythnos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 15 Mai.

Erbyn hyn, mae rhai o'r sgyrsiau rhwng Foden ag un o'i ddioddefwyr wedi cael eu rhannu gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Mae'r negeseuon yn disgrifio gweithred ryw roedd Foden am ei gwneud gyda'r plentyn, a chais gan Foden am luniau o'r plentyn.

Mae troseddau Foden yn dyddio rhwng 2019 a 2023 ac yn ymwneud â phedair o ferched. 

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi rhannu detholiad o negeseuon WhatsApp gyda rhaglen Y Byd a'r Bedwar, sy'n cael ei darlledu ar S4C nos Lun.

Yn y negeseuon, gellir gweld fod Foden yn cael ei enwi fel "Nick Jones", ar ôl cyfarwyddo'r plentyn i gadw ei rif ffôn symudol o dan enw ffug.

Image
screenshots foden
Image
Screenshots Foden
Image
screenshots foden
Image
screenshots foden

Bydd Neil Foden yn cael ei ddedfrydu ddydd Llun, 1 Gorffennaf, ac mae'n parhau yn y ddalfa yng Ngharchar y Berwyn tan hynny.

“Yn amlwg, fe fyddwch yn wynebu dedfryd hir o garchar,” meddai’r Barnwr Rhys Rowlands wrth Foden ar ôl i’r rheithgor ei gael yn euog.

Darn arall o'r dystiolaeth yn erbyn Foden yn yr achos, oedd bod olion DNA Foden wedi ei ganfod, ar y cyd ag olion DNA un o'r plant yn yr achos, ar bâr o gyffion sidan, oedd wedi eu canfod ym meddiant Foden.

Mae'r CPS hefyd wedi rhannu llun o'r cyffion dan sylw gyda rhaglen y Byd ar Bedwar.

Image
cyffion Foden

LLUNIAU: CPS

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.