Sion Bradley yn ymuno â'r Seintiau Newydd
Mae’r Seintiau Newydd wedi arwyddo’r asgellwr Sion Bradley ar ôl i’r chwaraewr adael Caernarfon ar ddiwedd y tymor.
Fe chwaraeodd Bradley, 26 oed, rhan ganolog wrth i Gaernarfon lwyddo i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor diwethaf.
Ond wythnos diwethaf daeth cyhoeddiad gan y chwaraewr, sydd y wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, ei fod yn gadael y Caneris cyn y gemau yng Nghyngres Europa UEFA.
Daeth cadarnhad ddydd Llun ei fod wedi arwyddo gyda phencampwyr y Cymru Premier JD, Y Seintiau Newydd, (YSN) gan arwyddo cytundeb gyda’r clwb llawn amser.
Inline Tweet: https://twitter.com/tnsfc/status/1797599320021082599
Dywedodd Bradley: “Rydw i wrth fy modd i arwyddo dros Y Seintiau Newydd. Mae 'na dalent anhygoel o fewn y garfan ac mae uchelgais y clwb am lwyddiant yn y gynghrair ac yn Ewrop yn rheswm mawr pam dwi wedi symud.
“Mae gennym ni gemau anferthol yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA yn dod i fyny a dwi eisiau helpu’r tîm i fynd mor bell â sy’n bosib yn Ewrop y tymor hwn.”
Dywedodd Craig Harrison, Prif Hyfforddwr YSN: “Mae Sion yn chwaraewr YSN nodweddiadol, sydd â llawer iawn o allu, creadigrwydd ac mae’n sgorio goliau gwych.
“Yn 26 oed yn unig, rydyn ni’n hyderus y gallwn ni gael mwy allan ohono wrth iddo ddod i amgylchedd llawn amser.”
Mae Bradley wedi chwarae 171 o gemau yn yr uwch gynghrair yn ei yrfa hyd yma, ac fe sgoriodd yr unig gôl wrth i Gymru C drechu Lloegr mewn gêm ryngwladol yn gynharach eleni.
Bydd YSN a Chaernarfon yn canfod eu gwrthwynebwyr yng nghystadlaethau Ewrop ar 18 Mehefin, gyda’r gemau yn cael eu chwarae fis Gorffennaf.