Newyddion S4C

Mecsico yn ethol Claudia Sheinbaum yn arlywydd benywaidd cyntaf

03/06/2024
Claudia Sheinbaum

Mae’r ymgeisydd gwleidyddol Claudia Sheinbaum wedi ei hethol yn arlywydd benywaidd cyntaf Mecsico.

Dywedodd awdurdod etholiadol swyddogol Mecsico fod canlyniadau rhagarweiniol yn dangos fod Ms Sheinbaum wedi ennill rhwng 58% a 60% o’r bleidlais yn yr etholiad ddydd Sul.

Mae Ms Sheinbaum yn wyddonydd amgylcheddol a chyn-faer Dinas Mecsico.

Ei phrif wrthwynebydd oedd y wraig fusnes Xóchitl Gálvez.

Bydd Ms Sheinbaum yn cymryd lle'r Arlywydd sy'n gadael, Andrés Manuel López Obrador, ar 1 Hydref.

Mae disgwyl i'r canlyniadau swyddogol gael eu cyhoeddi fore dydd Llun (amser Mecsico).

Bydd buddugoliaeth Ms Sheinbaum yn gam mawr i Fecsico, gwlad a fu am flynyddoedd yn gwthio gwerthoedd a rolau mwy traddodiadol i fenywod.

Ms Sheinbaum fyddai'r fenyw gyntaf i ennill etholiad cyffredinol yn yr Unol Daleithiau, Mecsico neu Ganada.

Ymgyrch treisgar

Mae pleidleiswyr hefyd wedi bod yn ethol aelodau o Gyngres Mecsico a llywodraethwyr mewn wyth talaith, yn ogystal â phennaeth llywodraeth Dinas Mecsico.

Mae’r ymgyrch wleidyddol wedi cael ei difetha gan ymosodiadau treisgar.

Yn ôl Llywodraeth Mecsico, mae mwy nag 20 o ymgeiswyr lleol wedi’u lladd ar draws y wlad. 

Er hynny, mae arolygon preifat yn honni fod hyd at 37 o ymgeiswyr wedi’u lladd.

Dywedodd swyddogion bod dau berson wedi’u lladd mewn dau ymosodiad ar orsafoedd pleidleisio yn nhalaith Puebla ddydd Sul.

Mae Ms Sheinbaum, a oedd yn rhedeg Dinas Mecsico yn 2018-23, wedi cael ei chefnogi gan Mr López Obrador.

Ni all Mr López Obrador, sydd wedi bod mewn grym ers 2018, gael ei benodi'n arlywydd unwaith eto.

O dan gyfansoddiad Mecsico, mae arlywyddion yn gyfyngedig i un tymor chwe blynedd.

Mae mwy o bobl wedi cael eu lladd - dros 185,000 - yn ystod arweinyddiaeth Mr López Obrador nag yn ystod unrhyw arweinyddiaeth arall yn hanes modern Mecsico, er bod y gyfradd lladdiadau wedi bod yn gostwng.

Mae Ms Sheinbaum wedi addo gwella diogelwch yn y wlad ond prin yw'r manylion ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.