Newyddion S4C

Rupert Murdoch yn priodi am y pumed tro yn 93 oed

02/06/2024
Rupert Murdoch

Mae’r dyn busnes Rupert Murdoch wedi priodi am y pumed tro yn 93 oed, mewn seremoni yn ei winllan yng Nghaliffornia.

Priododd Mr Murdoch Elena Zhukova, cyn-fiolegydd moleciwlaidd o Rwsia, 67, ddydd Sadwrn, ar ôl i adroddiadau am berthynas y ddau ddod i'r amlwg gyntaf ym mis Mawrth.

Mewn lluniau priodas a ryddhawyd i'r cyfryngau, mae Mr Murdoch, yn gwisgo siwt ddu gyda thei patrymog melyn, yn gwenu wrth ymyl ei wraig newydd.

Roedd Mr Murdoch, gafodd ei eni yn Awstralia wedi bod yn briod bedair gwaith o'r blaen.

Fe  ymddiswyddodd fel cadeirydd cwmniau Fox a News Corp y llynedd.

Llun: News Corp

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.