Gohirio'r ornest focsio rhwng Mike Tyson a Jake Paul
Mae gornest focsio rhwng Mike Tyson a Jake Paul wedi cael ei gohirio.
Roedd yr ornest rhwng y cyn bencampwr byd Mike Tyson a'r bocsiwr oedd gynt yn Youtuber, Jake Paul, i fod i gael ei chynnal ar 20 Gorffennaf yn Texas.
Dywedodd Tyson, 57, nad yw wedi gallu hyfforddi a pharatoi ar gyfer y frwydr a hynny wedi iddo brofi problem ddiweddar gydag wlser.
"Dwi wedi cael fy nghynghori gan fy meddyg i beidio hyfforddi mor galed dros yr wythnosau nesaf ac i wella," meddai.
"Mae fy nghorff ar y cyfan mewn gwell siap na'r hyn oedd o yn y 1990au ac fe fyddai yn ôl yn gallu hyfforddi yn iawn yn fuan."
Dywedodd trefnwyr yr ornest y byddai dyddiad newydd yn cael ei gyhoeddi ar 7 Mehefin.
Tyson oedd y bocsiwr pwysau trwm cyntaf i gipio teitlau'r WBA, WBC a IBF ar yr un pryd ym 1987.
Mae Jake Paul 30 mlynedd yn iau na Tyson ac mae wedi ennill naw o'i 10 gormes hyd yn hyn.