Dwy o unedau mân anafiadau yng Ngwynedd ar gau ers dros flwyddyn

Mae dwy o unedau mân anafiadau yng Ngwynedd yn parhau ar gau oherwydd "problemau staffio difrifol".
Yn ôl Wales Online, cafodd yr unedau yn Nolgellau a Thywyn eu cau ym Mawrth 2020, fel rhan o gynlluniau i reoli’r ymateb i Covid-19.
Dros i flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau fod y safleoedd yn parhau ar gau oherwydd problemau staffio.
Mae’r sefyllfa yn gorfodi pobl leol sy’n dioddef o anafiadau mân i ddod o hyd i ofal drwy ffyrdd eraill, yn aml mewn ysbytai sydd wedi’u lleoli yn bellach i ffwrdd medd Wales Online.
Mae’r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i gleifion, gan ychwanegu eu bod yn gobeithio ailagor un o’r unedau yn yr hen sir Feirionnydd erbyn gwyliau’r haf.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Ysbyty Tywyn, gan Peter Broster