Newyddion S4C

Rygbi: Pwy yw'r chwaraewyr newydd all ddisgleirio i Gymru yng ngemau'r haf?

02/06/2024
Eddie James, Morgan Morris, Theo Cabango ac Aneurin Owen

Ar drothwy cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau'r haf yn erbyn Awstralia a De Affrica, pa wynebau newydd bydd Warren Gatland yn eu dewis ar gyfer y gemau hyn, a phwy fydd yn debygol o ddisgleirio?

Yn dilyn gemau Dydd y Farn yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Gatland yn dewis ei garfan ddydd Llun ar gyfer gemau yn erbyn De Affrica yn Twickenham ar 22 Mehefin ac yna'r daith i Awstralia.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad lle na wnaethon nhw ennill un o'u gemau, gan hawlio'r llwy bren.

Pa chwaraewyr posib felly fydd yn cael eu cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf?

Morgan Morris - Y Gweilch

Efallai un o'r chwaraewyr mwyaf anlwcus i beidio ennill cap dros ei wlad yw Morgan Morris.

Mae'r wythwr wedi ennill gwobr chwaraewr y tymor y Gweilch dwy flynedd yn olynol ac wedi profi ei hun fel chwaraewr o safon.

Gydag Taulupe Faletau wedi ei anafu, mae Morris yn opsiwn a fydd yn gallu cymryd ei le yn ystod gemau'r haf.

Mae Aaron Wainwright wedi bod yn chwarae yn safle'r wythwr, ond gyda chyfle i arbrofi a gweld chwaraewyr newydd yn gwisgo crys Cymru, fe allai Morgan Morris ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.

Keelan Giles - Gweilch

Yn 27 oed, nid yw asgellwr y Gweilch erioed wedi ennill cap dros dîm cyntaf Cymru.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Warren Gatland ar gyfer gemau'r Hydref yn 2016 ac eto yn 2017 ond ni chwaraeodd unrhyw gemau yn ystod y gyfres.

Eleni mae wedi bod yn chwarae'n gyson wrth i'r Gweilch orffen yn y safle uchaf o holl dimau Cymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Image
Keelan Giles

Mae Josh Adams wedi dioddef anaf ac nid oes sicrwydd y bydd yn holliach i wynebu Awstralia a De Affrica.

Mae hynny yn golygu cyfle i asgellwr arall i gamu i'r adwy ac mae Giles yn un enw bydd Gatland yn sicr o'i ystyried.

Theo Cabango - Caerdydd

Asgellwr arall allai gael ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf yw Theo Cabango.

Yn frawd i amddiffynnwr Abertawe a Chymru, Ben Cabango, dim ond chwe gêm yn unig y mae Theo wedi chwarae'r tymor hwn oherwydd anafiadau.

Ond yn y gemau rheini, mae wedi sgorio ar dri achlysur.

Mae hyfforddwr Rygbi Caerdydd, Matt Sherratt wedi ei ddisgrifio fel "Rio Dyer Parc yr Arfau" wrth gyfeirio at ei faint a'i gyflymder.

Mae'n ddigon posib bydd Cabango ar yr awyren i deithio i Awstralia ac o bosib yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf yn erbyn De Affrica.

Ond fe gafodd Cabango anaf wrth chwarae yn erbyn y Gweilch ddydd Sadwrn felly fe fydd yn gobeithio gwella o'i anaf mewn pryd.

Jacob Beetham - Caerdydd

Chwaraewr arall mae Matt Sherratt yn hoff ohono yw Jacob Beetham.

Mae'r cefnwr 23 oed eisoes yn chwaraewr Y mae Warren Gatland yn edrych arno, wedi iddo gael ei alw i ymarfer gyda charfan Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Image
Jacob Beetham

Mae wedi chwarae saith gêm i dîm dan 20 Cymru ac wedi sgorio 10 pwynt.

Mae ei gyd-chwaraewr i'w glwb Cameron Winnett wedi chwarae ar Bum achlysur dros ei wlad yn safle'r cefnwr, ond mae'n bosib y caiff Beetham y cyfle'r haf hwn i ddangos ei ddawn yn ogystal.

Aneurin Owen - Dreigiau

Mae bwlch yn y safle canolwr wedi i George North gyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol yn dilyn y Chwe Gwlad.

Bydd gan chwaraewyr ifanc Cymru gyfle felly i geisio cymryd ei le a sicrhau lle parhaol wrth ochr Nick Tompkins yng nghanol y cae.

Chwaraeodd Owen ei gêm gyntaf i'r Dreigiau ym mis Rhagfyr 2020 ac mae wedi sefydlu ei hun fel un o'r enwau cyntaf yn y garfan ers hynny.

Bellach mae wedi gwneud 33 ymddangosiad i'r Dreigiau a sawl ymddangosiad i dîm dan 20 Cymru.

Chwarae i dîm cyntaf Cymru yw'r cam nesaf, ond a fydd y cyfle yn dod yr haf hwn?

Joe Westwood - Dreigiau

Yn 6 troedfedd 3 modfedd o daldra, mae'r canolwr Joe Westwood wedi torri mewn i dîm y Dreigiau ar ddiwedd y tymor.

Mae ei berfformiadau i Glwb Rygbi Casnewydd wedi dal sylw hyfforddwr y rhanbarth, Dai Flanagan ac o ganlyniad mae Westwood wedi chwarae dros ei ranbarth eleni.

Image
Joe Westwood

Fe ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Swansea.com ac enillodd ei le yn y 15 cyntaf i wynebu'r Scarlets ar Ddydd y Farn.

Mae'n ddigon posib mai fe fydd dewis Cymru i olynu North yn yr hir dymor.

Eddie James - Scarlets

Un chwaraewr mae hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel yn meddwl sy'n haeddu lle yng ngharfan Cymru yn yr haf yw Eddie James.

Mae'r canolwr wedi gwneud pedwar ymddangosiad i'w glwb ac yn ddiweddar mae wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Scarlets.

Mae wedi gwneud nifer o ymddangosiadau i Lanelli a Chwins Caerfyrddin cyn chwarae i'w ranbarth.

Credai Peel bod ganddo ddyfodol disglair o'i flaen, ac mae'n rhagweld y bydd yn ennill nifer o gapiau dros ei wlad.

Kemsley Mathias - Scarlets

Er bod Mathias wedi dod oddi ar y fainc i Gymru yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad ac yn erbyn Lloegr yn y gemau paratoadol cyn Cwpan y Byd 2023, nid yw wedi dechrau gêm dros ei wlad.

Mae'r prop pen rhydd yn un o nifer o opsiynau i Gatland yn y safle ond gyda chyfle i arbrofi yng ngemau cyfeillgar yr haf, mae'n bosib y bydd Mathias yn dechrau dros Gymru am y tro cyntaf.

Image
Kemsley Mathias

Enillodd chwaraewr newydd y tymor i'r Scarlets y tymor diwethaf ac ers hynny mae wedi sicrhau ei le yn 15 cyntaf Dwayne Peel.

Ni fydd herio pencampwyr y byd, De Affrica, ac Awstralia ar domen eu hunain yn hawdd, ond fe fydd yn gyfle i Gatland arbrofi gyda chwaraewyr newydd cyn gemau'r hydref a'r Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.