Newyddion S4C

Carcharu mam 'hollol anonest' o Abertawe am ddwyn etifeddiaeth £50,000 ei merched

31/05/2024
Hill

Mae mam “hollol anonest” a wnaeth ddwyn etifeddiaeth £50,000 a gafodd ei adael i’w merched gan eu mam-gu wedi cael ei charcharu am fwy na dwy flynedd.

Bu Katherine Hill, 53, yn cynllwynio gyda’i thad 93 oed, Gerald Hill i dwyllo ei phlant allan o’r arian a adawyd iddynt gan eu mam-gu, a fu farw yn 2013.

Defnyddiodd Ms Hill ei thad "am ei ddiniweidrwydd" wrth dwyllo'r merched.

Gadawyd y £50,000 i Gemma a Jessica Thomas yn ewyllys eu mam-gu Margaret, a ddywedodd y byddai modd iddynt dderbyn yr arian ar ôl iddynt droi’n 25.

Ond roedd Katherine a Gerald Hill wedi gwario'r holl arian mewn cyfnod o ychydig dros flwyddyn.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, cafodd Katherine Hill, o Bontardawe, ddedfryd o 30 mis o garchar. Bydd yn treulio hanner y ddedfryd yn y carchar a'r hanner arall ar drwydded.

Cafodd Gerald Hill, o Benrhyn Gŵyr, ddedfryd o 12 mis o garchar wedi’i ohirio am 18 mis, gyda’r barnwr yn ofni y byddai’n achosi “anhrefn” i’r system garchardai pe bai’n cael ei garcharu, oherwydd ei oedran.

'Sefyllfa unigryw'

Dywedodd y barnwr, Greg Bull KC: “Rydych chi’n bobl hollol anonest.

“Dros gyfnod o tua blwyddyn, rhwng Mawrth 2016 a Mawrth 2017 roeddech chi wedi cymryd rhan mewn twyll bwriadol i gael £50,000 o gronfa ymddiriedolaeth a gafodd ei sefydlu gan Margaret Hill.

“Rwy’n meddwl eich bod wedi’ch cythruddo cymaint bod eich merched wedi cael mwy o arian na chi, fel eich bod wedi penderfynu bod yn sbeitlyd ac yn anonest i gael eu hetifeddiaeth.

“Fe wnaethoch chi hyn yn rhannol er mwyn trachwant - nid yn unig trwy drachwant ond hefyd mewn modd maleisus, oherwydd bod eich merched wedi penderfynu byw gyda'u tad yn hytrach na chi. Fe wnaethoch chi ddefnyddio'r arian hwn fel arf yn erbyn eich plant eich hun."

Dywedodd y barnwr nad oedd Ms Hill a Mr Hill wedi dangos unrhyw edifeirwch a dywedodd wrth Gerald Hill y byddai'n cael ei gosbi am “gelwydd a ddywedoch mor hawdd."

Honnodd Gerald Hill yn flaenorol ei fod wedi cymryd peth o'r arian i'w roi i'w wyresau, trwy ei osod mewn amlenni a'i roi trwy eu drysau.

Dywedodd Mr Bull mai Katherine Hill oedd ysgogydd y twyll a’i bod wedi annog ei thad i gymryd rhan “gan wybod y byddai’n gallu cael ei ddefnyddio am ei ddiniweidrwydd”.

Cododd y barnwr bryderon hefyd ynglŷn â lle’r oedd yr holl arian wedi mynd, gan ddweud ei fod “yn ymddangos ei fod wedi diflannu heb unrhyw olion”.

Dywedodd y bargyfreithiwr Matt Murphy, a siaradodd ar ran Katherine Hill, fod tystlythyrau a roddwyd i’r llys yn ei chyfleu fel person "dibynadwy" gan ei chyd-weithwyr yn y banc lle’r oedd hi’n gweithio.

Disgrifiodd Mr Murphy y drosedd fel “sefyllfa unigryw” ym mywyd Ms Hill a mynnodd nad oedd hi'n falch ohono ac nad oedd wedi dangos “ffordd o fyw moethus”.

Wrth siarad ar ran Gerald Hill, gofynnodd Harry Dickens i’w gleient beidio â chael ei garcharu oherwydd ei oedran a phwysleisiodd nad yw’n risg i’r cyhoedd ac yn annhebygol o aildroseddu.

'Trawma difrifol'

Roedd mam-gu Gemma a Jessica Thomas wedi gosod yr arian mewn cyfrif ymddiriedolaeth, a gafodd ei rheoli gan eu mam.

Symudodd Katherine Hill yr arian i gyfrif cynilo Barclays, a oedd yn caniatáu mynediad ar unwaith, yn groes i gyngor cyfreithiwr.

Roedd ganddi hi a'i thad fynediad i'r cyfrif hwnnw.

Tynnwyd yr arian o'r cyfrif mewn talpiau mawr, gan gynnwys un achos lle tynnwyd £15,000.

Dim ond yn 2018 y cafodd y twyll ei ddarganfod pan ofynnodd un o’r chwiorydd am fynediad i’w chyfran o’r arian yn gynnar i’w helpu i brynu tŷ gyda’i chariad.

Roedd Jessica Thomas yn ei dagrau wrth iddi geisio darllen datganiad effaith dioddefwr i'r llys.

Darllenodd yr erlynydd, James Hartson, y datganiad ar ei rhan.

“Pan dwi’n ceisio rhoi’r emosiynau sy’n codi mewn geiriau pan ofynnir i mi drafod y drosedd yn fy erbyn i a fy chwaer gan fy mam a’m tad-cu, rwy’n ei chael hi’n eithaf anodd.

“Mae hyn oherwydd fy mod yn ei chael hi’n anodd deall sut y gallai fy nheulu fod wedi achosi’r fath boen."

Dywedodd Jessica Thomas ei bod wedi dioddef “trawma emosiynol a meddyliol difrifol” a’i bod wedi derbyn cwnsela yn ystod ei harddegau a’i bod bellach yn cael trafferth ffurfio perthynas gyda phobl eraill.

Ychwanegodd: “Mae meddwl bod fy mam a fy nhad-cu yn ei chael hi mor hawdd i greu celwyddau o’r fath yn fy nychryn ac mae hyn wedi arwain at anawsterau mewn meysydd eraill yn fy mywyd.

“Rwy’n ei chael hi’n anodd creu perthynas gyda phobl eraill ym mhob rhan o fy mywyd ers hynny. Mae hyn wedi bod yn niweidiol iawn i fy iechyd meddwl.”

Dywedodd y byddai'r arian wedi rhoi cyfle iddi hi, a bod hynny wedi'i gymryd oddi wrthi.

Darllenodd Mr Hartson ddatganiad ar ran Gemma hefyd, a ddywedodd fod y drosedd wedi effeithio arni “ym fwy neu lai pob agwedd o fy mywyd.

“Rwyf wedi cael fy siomi ac fe ddywedwyd celwydd wrthyf gan ddau o bobl, o fy ngwaed fy hun a fy nheulu.

“Er bod gen i deimladau cymysg am eu harestio oherwydd fy nheulu i ydyn nhw, rwy’n credu’n llwyr fy mod i a fy chwaer wedi cael ein hecsbloetio allan o'r arian.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.