Newyddion S4C

Eisteddfod yr Urdd 2025: 'Ni moyn cyrraedd pob person ifanc posib'

01/06/2024

Eisteddfod yr Urdd 2025: 'Ni moyn cyrraedd pob person ifanc posib'

“Ni moyn cyrraedd pob disgybl, pob person ifanc posib.”

Dyna yw neges Laurel Davies, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 wrth edrych ymlaen 12 mis i'r dyfodol.

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ddod i Barc Margam ym Mhort Talbot oedd yn 2003.

“Mae’n gyffrous iawn," meddai Ms Davies, oedd yn athrawes ddrama pan ddaeth yr ŵyl i'w milltir sgwâr ddau ddegawd yn ôl.

“Mae’n fendigedig bod yn rhan o dîm brwd, gweithgar o oedolion, gwirfoddolwyr ar draws y sir yn paratoi at Ddur a Môr 2025.”

Dywedodd Ms Davies bod penderfynu sut i gynrychioli ardal mor eang wedi bod yn “dipyn o her”.

“Fi’n credu ar y cychwyn mi oedd ‘na dipyn o her o safbwynt deall eisteddfod pwy yw Dur a Môr,” meddai. “Mae rhanbarth y gorllewin yn pontio Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.”

Yr ateb oedd sicrhau bod gan y pwyllgor gynrychiolaeth o bob ardal yn y fro.

“'Da ni eisiau sicrhau bod pawb yn teimlo mai ei heisteddfod nhw yw Dur a Môr 2025.”

Image
Laurel Davies
Yn ôl Laurel Davies, mae'n 'bwysig' bod plant o 'bob elfen o gymdeithas' yn cael mynediad at gyfleoedd Eisteddfod yr Urdd

Er gwaetha’r heriau, bwriad y pwyllgor gwaith yw “dathlu” hanes diwydiannol a lleoliad arfordirol y fro.

“Yn bendant ni moyn dathlu cymaint â phosib yr holl bethau gwych sydd yn diffinio Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, sef ardal Dur a Môr,” meddai.

“Mae themâu y cystadlaethau i gyd yn ffocysu ar hynny ac yn rhoi cyfleoedd i bobl edrych ar hynny.”

Ychwanegodd bod y pwyllgor hefyd wedi cydweithio â cherddorion o'r ardal.

“Nid cywydd croeso sydd da ni ond can y croeso, gyda Bronwen Lewis a Huw Chiswell wrthi yn cyfansoddi ac yn gweithio gyda’r bobl ifanc lleol er mwyn gallu esbonio be yw eu neges nhw am eu hardal leol nhw,” meddai.

'Sicrhau mynediad at gyfleoedd'

Yn bwysicach oll, dywedodd Ms Davies ei bod eisiau sicrhau mynediad at gyfleoedd Eisteddfod yr Urdd i blant o "bob elfen o gymdeithas".

“Mae ein sioe ieuenctid ni yn nwylo Organised Kaos, a Nicola [Hemsley-Cole] sydd yn gyfrifol am hynny. Mae hon yn mynd i fod yn sioe ar raddfa anferth, yn tynnu pobl o bob elfen o gymdeithas,” meddai.

“Mae hi’n gweithio lot gyda phobl ifanc di-gartref, mae hi’n gwneud lot o waith gyda outreach, ac mae hynna i gyd yn bwysig iawn i ni fel pwyllgor gwaith er mwyn sicrhau bod bob person ifanc â mynediad i’r cyfleoedd sydd ar gael fel rhan o Eisteddfod yr Urdd.”

Ond er mwyn cynnal yr ŵyl, bydd angen codi hyd at £350,000.

“Mae’r gwaith o godi arian yn her anferthol i ni a rhan o’r gwaith yna yw’r merch,” meddai.

“Mae ‘na lot o waith wedi mynd mewn i ddewis y math o bethe ni’n mynd i werthu, ac wrth gwrs mi gaethon ni gystadleuaeth er mwyn cael logo.

“Mae’r logo yn adlewyrchu hanes yr ardal a’r diwydiant sy’n rhan o’r ardal, ond hefyd y ffaith ein bod ni reit ar lan y môr o Bort Talbot reit draw i Benrhyn Gŵyr a cymaint mae hynny yn rhan o bwy ydyn ni.”

Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr yn cael ei chynnal ym Mharc Margam yn haf 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.