Vaughan Gething: Ymchwiliad Covid-19 yn cymryd pryderon dros ddileu negeseuon ‘o ddifrif’
Mae’r ymchwiliad i ymateb llywodraethau y DU i Covid-19 wedi dweud eu bod nhw’n cymryd pryderon y gallai Vaughan Gething fod wedi dileu negeseuon yn ystod y pandemig yn “ddifrifol iawn”.
Mae'n bosib y bydd yn rhaid i Brif Weinidog Cymru roi tystiolaeth bellach i'r ymchwiliad oherwydd amheuon ei fod wedi dileu negeseuon a allai fod yn bwysig i'w waith.
Daw hyn ar ôl i gyfres o negeseuon testun gael eu gollwng i wefan Nation.Cymru o sgwrs grŵp gweinidogol yn 2020.
Yn ol y wefan dywedodd Mr Gething ei fod yn “dileu’r negeseuon yn y grŵp hwn” oherwydd y gallent gael eu cyhoeddi gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dywedodd Mr Gething wrth Ymchwiliad Covid-19 y DU yn flaenorol na chafodd negeseuon WhatsApp eu dileu ganddo, ond gan dîm technoleg gwybodaeth Senedd Cymru.
Mae’r Prif Weinidog wedi gwadu bod negseuon a gafodd eu dileu yn ymwneud â phenderfyniadau y pandemig.
Ers i’r negeseuon gael eu cyhoeddi, mae’r Ceidwadwyr wedi mynnu dro ar ôl tro iddo gael ei alw’n ôl i’r ymchwiliad.
Dywedodd llythyr ysgrifennydd yr ymchwiliad Covid-19 at Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ddydd Mercher: “Mae’r ymchwiliad yn ymwybodol o’r erthygl ar 7 Mai a gyhoeddwyd gan Nation.Cymru ynglŷn â negeseuon WhatsApp Mr Gething.
“Mae’r ymchwiliad yn cymryd honiadau o ddinistrio deunyddiau a allai fod yn berthnasol o ddifrif a bydd yn cymryd unrhyw gamau y mae’n eu hystyried yn briodol, gan gynnwys cyhoeddi ceisiadau am ddatganiadau ysgrifenedig yn unol â Rheol 9 o Reolau’r Ymchwiliad 2006.”
Wrth ymateb i’r llythyr, dywedodd Andrew RT Davies: “Mae teuluoedd a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig yn disgwyl atebion gan Lywodraeth Lafur Cymru.
“Nid yw Vaughan Gething wedi bod yn gwbwl eglur ar ddileu o negeseuon Covid, ac mae’n galonogol iawn bod yr ymchwiliad yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif.
“Mae’n bryd i Gething esbonio wrth deuluoedd mewn profedigaeth a rhoi esboniad clir ar ba negeseuon gafodd eu dileu a pham.”
‘Chwarae gemau’
Daw hyn wrth i arweinydd y Blaid Lafur ddweud mai “chwarae gemau” yw ymgais i gael gwared o Vaughan Gething o'i swydd yn Brif Weinidog Cymru.
Bydd pleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething yn cael ei chynnal yn y Senedd ar 5 Mehefin, medd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae'r Ceidwadwyr wedi rhoi'r cynnig gerbron yn sgil pwysau cynyddol ar Mr Gething wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Ond dywedodd Keir Stramer mai “chwarae gemau” gan y Ceidwadwyr oedd y bleidlais.
Wrth siarad â gohebwyr yn Sir Fynwy, dywedodd Syr Keir: “Mae’r Torïaid yn chwarae gemau.
“Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr heriau sy’n wynebu Cymru a dweud ‘sut gallwn ni chwarae ein rhan i symud Cymru ymlaen a chyflawni ar gyfer pobl sy’n gweithio’n galed’, maen nhw eisiau chwarae gemau gyda phleidlais o ddiffyg hyder.
“Mae Vaughan Gething yn canolbwyntio’n llwyr ar gyflawni dros Gymru.”