Newyddion S4C

Sw Folly Farm Sir Benfro yn cyhoeddi bod eu jiráff ifanc Rudi wedi marw

Rudi

Mae fferm yn Sir Benfro sydd hefyd yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr wedi cyhoeddi bod eu  jiráff ifanc Rudi wedi marw.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd parc Folly Farm fod Rudi eu jiráff math Rothschild hybrid chwech oed wedi ei "roi i gysgu" yn dilyn cyfnod o waeledd.

"Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth Rudi, un o'n jiráff math hybrid Rothschild," medden nhw.

"Mae ein tîm wedi bod yn monitro Rudi ers tro, gyda’n partneriaid milfeddygol, ond yn dilyn dirywiad yn ei iechyd dros yr wythnosau diwethaf fe ddaethpwyd o hyd iddo wedi llewygu. 

"Gwnaethom y penderfyniad anodd i roi Rudi i gysgu er mwyn atal unrhyw ddioddefaint pellach." 

'Trist'

Roedd Rudi wedi dod i'r fferm o Barc Saffari Longleat yn Wiltshire ynghyd a’i hanner brawd Dr Shrimp, nôl yn 2021.

Mae Folly Farm yn gartref i nifer fawr o anifeiliaid o bedwar ban byd, gan gynnwys llewod, fflamingos, crocodeils a nifer o amlusgiaid prin.

Fe ychwanegodd y datganiad fod profion post mortem wedi cafnod fod Rudi wedi bod yn dioddef o glefyd cynhenid ​​​​y galon, cyflwr iechyd hirdymor sy'n debygol o fodoli ers ei enedigaeth.

"Mae ein meddyliau ar yr amser trist hwn gyda cheidwaid ymroddedig Folly Farm a fu’n gofalu amdano’n feunyddiol ac sy'n golled fwyaf iddynt," meddai.

Mae degau o unigolion wedi cyflwyno teyrngedau i Rudi mewn ymateb i ddatganiad y fferm ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.